Am: Ymarferydd Llawrydd / Ymarferydd Creadigol

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn hynod heriol i ymarferwyr creadigol ac fel arwydd o’n gwerthfawrogiad o’ch gwaith diflino i gadw’r sector creadigol yn ffynnu yng Ngogledd Cymru a thu hwnt, hoffem gynnig dau docyn am ddim i chi i fynychu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar Ddydd Sul, Gorffennaf 9fed 2023.

Rydym wedi creu safle awyr agored gwbl newydd, yn cynnwys cerddoriaeth byw, dawnsio, sgyrsiau, comedi, gweithdai, adloniant ‘pop-up’, ynghyd â bwydydd a diodydd o bedwar ban byd a digon o siopa, a’r cwbl wedi’i gynllunio i swyno a syfrdanu! Ymunwch â ni i ymlacio ac i fwynhau rhaglen, sy’n llawn o ddigwyddiadau cyfeillgar ar gyfer y teulu, fydd yn rhedeg o 10.00 y bore tan 6.30 yr hwyr.

Yn dilyn hyn, hoffem i chi ymuno â ni yn y Pafiliwn am 6.30 i weld y sioe ‘Sêr Yfory’. Mae hwn yn ddigwyddiad byw newydd lle fydd grwpiau’n brwydro i ennill y teitl Pencampwyr Dawns Ieuenctid 2023, ochr yn ochr â Llais Theatr Gerdd 2023 (un o’n digwyddiadau cynulleidfa mwyaf poblogaidd yn 2022), a chystadleuaeth cyfansoddi caneuon newydd i ganfod sêr cerddoriaeth boblogaidd.

Fe fyddwn wrth ein bodd pe baech yn gallu ymuno â ni a byddem yn croesawu eich adborth ac unrhyw syniadau ar gyfer gweithgareddau i’r dyfodol. Os hoffech ddod â ffrindiau a theulu gyda chi gallwn gynnig tocynnau am bris arbennig (£10 yr un) i Gyfeillion Llawrydd. Mi fydd y tocyn yn cynnwys y seddi gorau ar gael ar gyfer sioe ‘Sêr Yfory’.

I dderbyn y cynnig uchod, plis anfonwch e-bost at: chair@llangollen.net yn cynnwys unrhyw fanylion am docynnau ychwanegol.

Mae manylion rhaglen gyflawn Eisteddfod 2023 i’w gweld ar y wefan, sef: www.international-eisteddfod.co.uk/cy