Ymunwch â ni am noson o ddawns a gair llafar Affricanaidd yn Ein Llais, cynulliad anffurfiol ar gyfer rhannu a chysylltu.

Cynhelir y noson gan sylfaenydd Rhwydwaith Ein Llais, Krystal S. Lowe, a bydd yn ofod i arddangos artistiaid a dod â phobl at ei gilydd i gysylltu a thrafod eu hangerdd dros y celfyddydau a diwylliant.

Mae Plamedi Santima-Akiso yn artist dawns a choreograffydd yng Nghymru a aned yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo. Mae’n arbenigo mewn Dawns Affricanaidd, trwy ei chwmni dawns AFJ Cardiff. Ymunwch â Plamedi mewn archwiliad o arddulliau dawns Affricanaidd, wedi'u hysbrydoli gan ddathliad o unigoliaeth ddiwylliannol.

Mae Naseem Syed yn artist gweledol sy'n ymgysylltiedig yn gymdeithasol ac yn ymfalchïo yn ei hunaniaeth Gymreig ac Iranaidd. Mae hi'n angerddol am grefftifiaeth (craftivism), cymuned a lledaenu caredigrwydd trwy greadigrwydd. Ymunwch â Pom Pom Poet, Naseem (Ziba Creative) am air llafar wedi'i ysbrydoli gan lawenydd radical, caredigrwydd ac Azadi.

Neuadd y Gweithwyr Blaengarw, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 8AW

Dydd Sadwrn 16 Mawrth

5.30pm

Ariennir hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.