Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi miloedd o weithgareddau , perfformiadau a phrosiectau trwy gydol y flwyddyn. O’n neuaddau pentref i’n prif wyliau, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwneud yn siŵr fod rhywbeth i’w fwynhau ym mhob cwr o Gymru gyda rhywbeth sy’n apelio at bawb.
Dros yr haf hwn, byddwn yn rhoi blas i chi o rai o’r digwyddiadau bywiog ac amrywiol sy’n digwydd gyda’n cefnogaeth ni, ein cynllun Noson Allan, a thrwy gefnogaeth chwaraewyr Y Loteri Genedlaethol. Felly, boed hi’n law neu heulwen, bydd y celfyddydau yn siŵr o wneud i chi wenu!
Mae’r ŵyl sy’n rhoi llwyfan i gyfoeth diwylliant a chelfyddydau Affricanaidd, yn cael ei chynnal mewn dwy ran, gyda’r rhan gyntaf yn Neuadd Ogwen, Bethesda rhwng 1 a 3 Mehefin a’r ail ran yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar benwythnos 10 ac 11 Mehefin.
Mae'r ddau benwythnos yn llawn o rythmau cerddoriaeth fyw, gweithdai dawns, cerddoriaeth a barddoniaeth, ac arddangosfeydd celf a ffotograffiaeth.
“Mae’r Dathliad yn gyfle i ddarganfod rhywbeth newydd, ac i weld artistiaid o’r safon uchaf,” meddai Cathryn McShane-Kouyaté sy’n aelod o Successors of the Mandingue sy’n trefnu’r Dathliad mewn partneriaeth â Neuadd Ogwen, Butetown Arts & Culture Association a Rahim El Habachi.
“Mae rhai o’r enwau yma yn artistiaid sydd yn teithio’n rhyngwladol ac maen nhw’n enwog yn rhyngwladol am reswm – maen nhw mor, mor dda.”
Mae artistiaid o nifer o wledydd Affrica, ynghyd ac artistiaid Affricanaidd sydd yn byw yma, yn perfformio yn y Dathliad. Dau fydd yn camu ar lwyfan Canolfan y Mileniwm dros y penwythnos yw Rasha, cantores a cherddor o Sudan, a Kanda Bongo Man, cerddor enwog o’r Congo sy’n cael ei adnabod fel Brenin y Soukous, y Kanda Bongo Man.
Un arall sy’n perfformio yn yr Ŵyl yw’r cerddor a’r canwr, N’famady Kouyaté. Mae’n wreiddiol o wlad Guinea, N’famady Kouyaté ond bellach yn byw yng Nghaerdydd:
“Rwy’n byw yng Nghymru ers pum mlynedd bellach, ac wedi gweld sut mae’r Cymry yn ymateb i fy ngherddoriaeth a fy niwylliant i. Mae’n gyffrous iawn gallu dod â rhywbeth mwy na hynny i’r gynulleidfa Gymraeg,” meddai. “Roedd yn brofiad arbennig iawn bod yn Neuadd Ogwen. Roedd yn wych gweld ymateb y bobl ac roedd yr egni yn anhygoel. Rwy’n methu aros i berfformio yng Nghaerdydd!”
Fel rhan o’r Dathliad bu N’famady yn cydweithio â’r gantores Gymraeg Eve Goodman a sefydlwyd dwy bartneriaeth greadigol arall hefyd; un rhwng Dafydd Iwan ac Ali Goolyad, bardd o Butetown yng Nghaerdydd a aned yn Somaliland, a’r llall rhwng dwy ddawnswraig, Aida Diop sy’n byw yn Abertawe ond yn dod o Senegal yn wreiddiol, a Krystal Lowe sy’n byw yng Nghasnewydd ond yn wreiddiol o Bermuda.
“Gig efo N’famady oedd y gig gyntaf i ni wneud yma ar ôl Covid,” meddai Dilwyn Llwyd, rheolwr Neuadd Ogwen. “Mae’r trafodaethau am y Dathliad wedi parhau ers hynny a dweud y gwir, felly mae’n grêt fod o’n digwydd o’r diwedd. Mae’r holl berfformiadau dros y penwythnos wedi mynd yn ffantastig, gydag andros o gynulleidfa dda reit o’r cychwyn.”
“Y peth mwyaf i fi ydy cyflwyno pethe Cymraeg a phethe rhyngwladol mewn cymuned Gymraeg, ac wedyn ti’n cymysgu pobl, pobl o ddiwylliannau gwahanol. Yn hanesyddol fasa gen ti ddwy gynulleidfa hollol wahanol ar gyfer digwyddiadau cerddoriaeth byd, a digwyddiadau cerddoriaeth Gymraeg. Ond erbyn hyn rydan ni’n gweld lot mwy o gymysgu yma, a dyna ’dwi isio, gwneud yn siŵr bod y croesi yna yn digwydd.”
“Heb nawdd y Cyngor, heb y cyllid yma fydde fe ddim yn bosib. Allen ni ddim dechrau rhywbeth newydd fel hyn a gydag artistiaid o’r safon yma, artistiaid rhyngwladol.”
Cathryn McShane-Kouyaté, Successors of the Mandingue.
Roedd y canwr a’r gitarydd Josh Whyte, neu ‘Blank Face’ – sy’n wreiddiol o Nigeria ond erbyn hyn yn byw’n y brifddinas yn cymryd rhan trwy gynllun artistiaid ar ddechrau eu gyrfa. Meddai Josh am y penwythnos ym Methesda: “Roedd yn llawer iawn o hwyl, penwythnos o olygfeydd godidog. Nes i wir fwynhau cyfarfod y bobl leol a chreu atgofion bythgofiadwy.”
Os hoffech chi brofi rhywbeth newydd a chreu atgofion bythgofiadwy ewch draw i wefan Canolfan Mileniwm Cymru i archebu tocynnau ar gyfer ail benwythnos Dathliad Cymru Affrica: https://www.wmc.org.uk/cy/digwyddiadur/2023/gwyl-dathliad-cymru-affrica