Mae’n bleser gennym rannu fod gan ysgolion bythefnos yn ychwanegol i gyflwyno’u ceisiadau ar gyfer y rhaglenni Arbrofi ac Arbenigo: Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol. Y dyddiad cau newydd nawr yw 12yh 31 Hydref 2025.

Arbrofi

Mae’r rhaglen Arbrofi yn gyfle arbennig i ysgolion cynradd, uwchradd a sefydliadau addysgu arbenigol i dderbyn grant o £2,000 a 10 diwrnod o gefnogaeth gan Bartner Dysgu Creadigol i ddatblygu llythrennedd, lles a chreadigrwydd ar draws y cwricwlwm.

Byddwch yn cyd-gynllunio a chyd-gyflwyno profiadau dysgu dilys ochr yn ochr â’ch Partner Dysgu Creadigol, gan ystyried pa agweddau o’r cynllun gwella ysgol yr ydych am fynd i’r afael â nhw. Am ragor o fanylion am y rhaglen a sut i wneud cais ewch draw i’n tudalen gyllid: Arbrofi

Arbenigo: Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol 

Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol, a gyflwynir mewn partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, yn gyfle wedi’i ariannu i gefnogi arweinwyr ysgolion yng Nghymru sy’n awyddus i archwilio dulliau arweinyddiaeth a dysgu creadigol arloesol.

Os ydych yn arweinydd canol neu uwch — neu’n dyheu i fod — ac yn awyddus i ddod â’r Cwricwlwm i Gymru yn fyw mewn ffyrdd ymgysylltiol a dilys, mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle unigryw i wneud hynny. Am ragor o fanylion ynglŷn â sut i gymryd rhan ewch draw i’n tudalen gyllid: Arbenigo

** Sylwch, er mwyn cael mynediad at y ffurflenni cais, bydd angen i chi fod wedi cofrestru ar borth ar-lein Cyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn i chi ddymuno dechrau eich cais. Ar ôl i chi dderbyn eich manylion mewngofnodi, gallwch ddefnyddio'r rhain i gael mynediad at holl ffurflenni cais Dysgu Creadigol Cymru ac ni fydd angen i chi ailgofrestru pan fyddwch chi eisiau gwneud cais eto.

Dysgu Creadigol Cymru: Ysbrydoli Creadigrwydd, Trawsnewid Addysg