Mae'r artistiaid Ffion Wyn Morris a Rhiannon White yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer sioe newydd yn archwilio perthnasoedd pobl dosbarth gweithiol â’r iaith Gymraeg, hunaniaeth a dosbarth, o'r enw Dydyn Ni Ddim yn Siarad Dim Mwy.

Mae'r ymchwil yn ystyried y ffordd rydyn ni’n dysgu iaith, brwydr ieithoedd brodorol, pa ieithoedd newydd sy’n dod i’r amlwg, a beth yw’r berthynas a’r rhagdybiaethau am ddosbarth a’r Gymraeg.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gweithdai isod, neu ewch i https://commonwealththeatre.co.uk/caerdydd/?lang=cy am ragor o wybodaeth a blogiau, wrth i’r ymchwil ddatblygu.

Dydd Sadwrn 18 Tach 2023
11am-3pm
The Circle Tredegar, NP22 3PS

Chwyldro Bach
Gweithdy ysgrifennu gyda Patrick Jones sy’n ymchwilio i syniadau radical o’r gorffennol er mwyn mynegi syniadau ar gyfer y presennol a’r dyfodol.

ARCHEBWCH YMA

………………

Dydd Sadwrn 25 Tachwedd 2023
12pm-5.30pm
St Mellons Hyb, 30 Crickhowell Rd, CF3 0EF

Gweithdy Lluniadu Blin, gyda Bedwyr Williams
Gan ddefnyddio testun a lluniadau, byddwn ni’n bwrw allan unrhyw bwnc sy’n dân ar eich croen chi ar hyn o bryd. Unrhyw beth, o bethau dibwys i bethau cyffredinol

ARCHEBWCH YMA

………………