Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cysylltu yr wythnos hon â’r sefydliadau a wnaeth gais Adolygiad Buddsoddi am arian aml-flwyddyn, i ddweud y byddwn yn eu hysbysu o benderfyniad Y Cyngor, ar fore dydd Mercher, 27 Medi. Bydd cyhoeddiad cyhoeddus yn hefyd ar yr un diwrnod.

Bydd pob cynnig yn amodol ar y setliad ariannol i Gyngor Celfyddydau Cymru drwy Gyllideb 2024-25 Llywodraeth Cymru.

Mae gan pob sefydliad hawl i apelio. Eglurir y broses Apelio yma.

Bydd Cymorth Pontio ar gael i unrhyw aelod o’r Portffolio Celfyddydol presennol na fyddant yn cael cynnig arian aml-flwyddyn.  Gellir dod o hyd i'r Cymorth Pontio yma.

Bydd cyfle i newyddiadurwyr sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor, ddod i sesiynau briffio. Gellir trefnu hyn drwy anfon  e-bost atom.