Heddiw dyma’r Cyngor yn atgoffa pobl fod ei gronfa ymsefydlogi i unigolion yn cau am 5pm ddydd Llun 15 Mehefin. Mae'r gronfa’n rhan o gefnogaeth y Cyngor i’r gymuned greadigol yn ystod yr argyfwng.

Mae'r gronfa'n cefnogi artistiaid hunangyflogedig ac ymarferwyr creadigol llawrydd sy'n gweithio yn y sector dielw yng Nghymru. Ei nod yw cefnogi'r rhai sy'n ceisio goroesi'r bygythiad i'w bywoliaeth oherwydd yr argyfwng a’u helpu i gynnal eu harferion creadigol a’u datblygu’n bellach er gwaethaf y cyfyngiadau presennol.

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Rydym ni am wneud popeth yn ein gallu i helpu artistiaid a sefydliadau celfyddydol i oroesi'r argyfwng ac ymsefydlogi. Yn aml mae artistiaid a gweithwyr creadigol llawrydd yn symud o un prosiect i un arall i sicrhau eu taliad nesaf. Mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi cael y cyfan o’u gwaith wedi’i ganslo. Maent heb incwm a heb addewid o waith. Ond gweithwyr unigol yw anadl einioes y celfyddydau ac mae eu cyfraniad yn hanfodol.

"Mae ymateb Llywodraeth Cymru a'r arian a gawsom gan y Loteri Genedlaethol wedi bod yn wych. Rydym ni hefyd yn croesawu cyfraniadau Tŷ Cerdd, Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Freelands at yr arian sydd ar gael."

Erbyn hyn rydym ni wedi rhoi £4 miliwn i unigolion a sefydliadau o’r ddau faes cyntaf o’n Cronfa Wytnwch a £909,000 i unigolion o'r Gronfa ymateb brys i unigolion gyda 77% o geisiadau'n llwyddiannus. Mae'r holl grantiau i unigolion wedi'u dosbarthu erbyn hyn.

Cafodd y gronfa ymsefydlogi i sefydliadau 136 o geisiadau gyda 90% o'r ceisiadau yn llwyddiannus ac ar hyn o bryd mae £3.1 miliwn yn cael eu dosbarthu’n grantiau.
 

Erbyn hyn mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhoi £4 miliwn i unigolion a sefydliadau o’r ddau faes cyntaf o’n Cronfa Wytnwch.

Mwy o wybodaeth
 

  1. Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am ariannu a chefnogi'r celfyddydau yng Nghymru.
     
  2. Mae'r gronfa ymsefydlogi i unigolion yn un o'r tri maes yn ein cronfa wytnwch gelfyddydol. Sefydlwyd y gronfa gennym ni a Llywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys arian gan y Loteri Genedlaethol a chyfraniadau gan Dŷ Cerdd, Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Freelands. £7.5 miliwn sydd yn y gronfa.
     
  3. Mae cyfraniad Sefydliad Freelands o £0.5 miliwn yn rhan o’i ymrwymiad o £3 miliwn tuag at gronfeydd brys i artistiaid ac ymarferwyr creadigol llawrydd ledled Prydain yn sgil yr argyfwng. Sefydlwyd Sefydliad Freelands yn 2015 i annog y cyhoedd i ymgysylltu’n fwy â'r celfyddydau a'u mwynhau. Am ragor o wybodaeth: www.freelandsfoundation.co.uk
     
  4. Agorodd y gronfa wytnwch i unigolion ddydd Gwener 29 Mai 2020. Y dyddiad cau am geisiadau ar-lein yw 5pm ar 15 Mehefin 2020.
     
  5. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, caiff £30,000,000 eu codi bob wythnos ledled Prydain at achosion da. Bydd llawer o’r arian yn cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymunedau yn ystod yr argyfwng.