Mae prosiect i ddatblygu’r sîn cerddoriaeth iaith Gymraeg yn Abertawe yn cyrraedd ei ddiweddglo ym mis Rhagfyr.
Wedi’i arwain gan Menter Iaith Abertawe, mae'r prosiect wedi gweld cyfanswm o 68 o ddigwyddiadau byw gyda dros 9,500 o bobl yn mynychu ers dechrau'r prosiect ym mis Medi 2022. Mae'r prosiect hefyd wedi rhoi cyfleoedd i dros 170 o artistiaid gwahanol sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith neu o ardal Abertawe, ac wedi helpu sefydlu gŵyl gelfyddydol gyfoes Gymraeg flynyddol newydd, Gŵyl Tawe, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Dywedodd Tomos Jones, Prif Swyddog Menter Iaith Abertawe, "Mae llwyddiant y prosiect hwn wedi profi’r awydd am ddigwyddiadau celfyddydol iaith Gymraeg rheolaidd yn Abertawe. Mae'r gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru wedi ein galluogi i raglennu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gan arddangos genres gwahanol a rhoi cyfleoedd i artistiaid newydd. Mae hyn wedi ein galluogi i adeiladu partneriaethau a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd, ac rydym yn hyderus y bydd y prosiect hwn yn cael effaith sylweddol a pharhaol ar y sîn celfyddydol iaith Gymraeg yn yr ardal."
Yn ogystal â digwyddiadau rheolaidd yn Nhŷ Tawe, Canolfan Gymraeg, Celfyddydau a Chymunedol Abertawe, mae'r prosiect hefyd wedi gweld cydweithio rheolaidd gyda lleoliadau eraill yn y ddinas fel The Bunkhouse, Elysium, a’r Mission Gallery.
Dywedodd Scott Mackay, Rheolwr Lleoliad yr Elysium, “Mae gweithio gyda Menter Iaith Abertawe wedi ein galluogi i lwyfannu ystod eang o gerddoriaeth Gymraeg; caniatáu i ni lwyfannu artistiaid a fyddai fel arall wedi bod tu hwnt i’n cyrraedd, a rhoi cyfleoedd i berfformwyr lleol ymddangos gyda pherfformwyr anhygoel. Mae ystod y dalent gerddorol yn Abertawe, a Chymru, ar hyn o bryd yn ysbrydoledig ac ni allwn aros i weld beth sydd ar y gweill ar gyfer 2025!”.
Ochr yn ochr â'r digwyddiadau byw, mae'r prosiect hefyd wedi sefydlu clwb cerddoriaeth wythnosol newydd ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed mewn partneriaeth ag Urdd Gobaith Cymru. Mae'r bobl ifanc sy'n mynychu'r clwb wedi cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau cerddorol, cyfansoddi caneuon, a recordio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r aelodau hefyd wedi derbyn cyfleoedd i fynd ymlaen i chwarae gigs byw fel rhan o'r prosiect ehangach. Bydd y gweithdai wythnosol hyn yn parhau yn 2025 a thu hwnt.
Drwy gydol y prosiect, roedd tocynnau am ddim ar gael i fyfyrwyr Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, gan annog siaradwyr newydd i ymgysylltu â’r diwylliant a’r celfyddydau iaith Gymraeg.
Dywedodd Rhiannon Britton, Swyddog Ansawdd Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn anhygoel i’n dysgwyr ni ac mae cymaint ohonyn nhw wedi manteisio ar gael tocynnau i’r gigs Cymraeg am ddim. Mae wedi rhoi cyfle iddyn nhw gwrdd â siaradwyr a dysgwyr eraill ac ymarfer eu sgiliau iaith newydd - rhywbeth sy’n gallu bod yn heriol yn ardal Abertawe. Yn ogystal â hynny, mae’r prosiect wedi agor drysau i fyd newydd o gerddoriaeth a diwylliant Cymreig iddyn nhw a fyddai ddim wedi bod yn bosibl heb y prosiect hwn. Dw i’n gwybod eu bod nhw’n edrych ymlaen at ragor o gigs yn y dyfodol!”.
Yn unol â'r rhaglen dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bydd y prosiect yn gorffen gyda chyfres o gigs amrywiol ym mis Rhagfyr. Ar nos Sul y 1af o Ragfyr, bydd y trysorau indie Cymraeg Melys yn ymweld â’r Bunkhouse, gyda chefnogaeth ddwyieithog gan Pseudo Cool, Y Dail, a Swan Hill mewn cydweithrediad â'r ffansîn R*E*P*E*A*T. Ar nos Wener y 6ed o Ragfyr, bydd Griff Lynch, prif leisydd Yr Ods a'r artist pop-electronig unigol, yn ymweld â Thŷ Tawe gyda chefnogaeth gan yr arwyr indie-funk lleol Ci Gofod a’r sêr newydd Taran.
Sioe olaf y prosiect yw'r sioe unigol fwyaf hyd yma, gyda'r cerddor gwerin amgen Georgia Ruth yn perfformio yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Taliesin ar nos Llun yr 16eg o Ragfyr. Yn y sioe arbennig hon, bydd Georgia yn chwarae ei halbwm 'Cool Head' a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024 yn ei chyfanrwydd gyda band llawn a llinynnau i ddod ag awyrgylch y record arbennig iawn hon i Abertawe.
Er bod y prosiect penodol hwn yn dod i ben, mae gan Menter Iaith Abertawe gynlluniau eisoes ar waith ar gyfer 2025 a thu hwnt.
"Rydym yn gyffrous iawn i rannu ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda phawb", eglura Tomos Jones, "mae gennym ni gigs gwych i'w cyhoeddi ar ddechrau 2025, ac mae yna newyddion cyffrous iawn am Gŵyl Tawe yn dod yn fuan iawn hefyd. Rydyn ni'n teimlo’n bositif iawn am ddyfodol y sîn celfyddydol iaith Gymraeg yn Abertawe."
Gigs olaf:
Nos Sul 1/12 – Melys + Pseudo Cool + Y Dail + Swan Hill / The Bunkhouse
Nos Wener 6/12 – Griff Lynch + Ci Gofod + Taran / Tŷ Tawe
Nos Lun 16/12 – Georgia Ruth / Canolfan y Celfyddydau Taliesin