Bydd drama newydd sy’n adrodd y stori o drychineb tirlithiad Aberfan trwy gyfrwng lleisiau goroeswyr, gwirfoddolwyr a’r gymuned, yn cael ei pherfformio yn Eglwys St Elfan, Aberdâr (dydd Iau, 11 Ebrill) a Neuadd Les Pendyrus (dydd Gwener, 12 Ebrill). Mae perfformiadau The Silent Volunteer yn rhan o brosiect Ymchwil a Datblygu a’i noddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Cynhelir y perfformiadau am 2pm a 7pm yn y ddau le.

 

Mae The Silent Volunteer yn adrodd y stori o bersbectif y gymuned a’r gwirfoddolwyr a helpodd ar ddiwrnod y drychineb. Fe’i seilwyd ar ddrama gan yr ysgrifenwraig leol Sue Bevan. Sue aeth at Avant gyda’r syniad o gynhyrchu’r ddrama. Ar ôl ymgynghoriad, digwyddiadau gyda’r gymuned, darlleniadau sgript a mireinio gyda phobl yn Aberdâr a Phendyrus, mae’r ddrama yn cael ei dangos mewn dwy berfformiad arbrofol. Yna bydd yn cael ei datblygu ymhellach cyn mynd ar daith yng Nghymru a Lloegr.

 

Esboniodd Rachel Pedley, Cyfarwyddwraig Avant Cymru: “Yn ystod trafodaethau ym Mhendyrus, fe glywsom sut roedd y tirlithiadau diweddar wedi effeithio ar fywydau pobl. Yn Aberfan, fe glywsom gan oroeswyr sut yr oeddent wedi cael dweud wrthynt ‘i beidio sôn am y drychineb’. Clywsom yr un stori gan ein teuluoedd. Gyda’n gilydd rydym wedi dod i ddeall sut y mae’r drychineb wedi siapio ein bywydau ni i gyd yn y gymuned. Mae e wedi dod i’r olwg fod pobl yn fodlon siarad mwy am y digwyddiad, ac yn barod i rannu eu storïau gydag eraill sydd wedi, neu fydd yn y dyfodol, yn cael eu heffeithio gan fygythiadau i’w hamgylchedd gan ddiwydiant a masnach.”

 

Mae cyfle wedi bodoli hefyd i’r gymuned fyfyrio am y drychineb drwy flwch post ‘llythyr i Aberfan’ ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda.  Ac ym Mhendyrus, bu i’r bobl leol adeiladu model Lego o’u hardal yn ystod digwyddiad yn y Neuadd Les, tra’n trafod materion lleol.

 

Ychwanegodd Rachel: “Bydd y ddrama hon a’r trafodaethau ar ôl y perfformiad yn rhoi cyfle i ni gyd siarad yn agored, gyda chymorth ein hartisiaid trawma-wybodus.”

 

Mae Cyfarwyddwyr ac artistiaid Avant Cymru wedi bod yn cwblhau proses i fod yn sefydliad trawma-wybodus, wedi’i achredu gan One Small Thing. Y nhw fyddai’r cyntaf yng Nghymru i ennill yr achrediad.

 

“Mae The Silent Volunteer yn ddrama am y lleisiau sydd heb ddarganfod y geiriau i siarad eto,” meddai Rachel, “ond mae nhw eisiau i’r byd wybod nad oedd trychineb Aberfan yn “weithred Duw”, ac hoffent atal trychinebau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol mewn cyn-adrdaloedd glo. Ein cenhadaeth yw i gofio’r gorffennol, trafod y presennol, a chreu’r dyfodol gyda’r holl gymunedau dy ni’n gweithio gyda nhw.”

Prynwch docynnau yma: https://www.ticketsource.co.uk/avantcymru I wybod mwy:  https://www.instagram.com/avant_cymru/    https://www.facebook.com/AvantCymru/   https://www.avant.cymru/productions