Cyhoeddi taith DRAENEN DDU

Cyfieithiad Angharad Tomos o Blackthorn gan Charley Miles. 

Cast: Rhian Blythe a Siôn Pritchard. 

Cyfarwyddo: Betsan Llwyd 

Canllaw Oed 14 + (defnydd o Iaith gref).

Manylion y daith a gwybodaeth i hawlio’ch tocynnau i’w cael ar www.theatrbaracaws.com.

Yn sgil llwyddiant ysgubol y cynyrchiad gan Bara Caws yn 2022 rydym yn ail deithio Draenen Ddu er mwyn ateb galw’r niferoedd na chafodd gyfle i’w weld.

Ar yr wyneb mae'n blanhigyn cwbl wahanol, ond yr un yw'r gwraidd.

Dau o blant yn unig sydd wedi eu geni yn y pentref ers cenhedlaeth, ac mae'r ddau'n byw ym mhocedi ei gilydd, ond wrth iddynt dyfu mae'r clymau'n dechrau datod.

Mae cefn gwlad yn newid a'r hen draddodiadau ac enwau ffermydd a chaeau dan fygythiad.

Hen, hen thema sydd yma, a'n cael ei chyflwyno i genhedlaeth newydd a hynny mewn modd annwyl, doniol a dirdynol. Mae'r pwnc yn effeithio pob un ohonom, hen ac ifanc, trefol neu wledig. Beth ddaw o'n cymunedau ni, a chyfrifoldeb pwy yw eu parhad? Oes modd gwarchod ein treftadaeth ac ar yr un pryd sicrhau dyfodol i’n pobl ifanc yn eu cynefin?

Mae'r ddrama yma'n siwr o daro tant gyda'n cynulleidfaoedd cymunedol heddiw.