Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o ostyngiad o 10.5% yn ein cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25, rydym wedi gwneud arbedion sylweddol drwy broses o ddiswyddiadau gwirfoddol, ailstrwythuro ein Uwch Dîm Arwain a nifer o newidiadau mewnol, gan gynnwys newid yn y cylch cyllido ar gyfer Grantiau Loteri. Mae 11 aelod o staff wedi derbyn diswyddiad gwirfoddol ac mae dau aelod o’n Uwch Dîm Arwain wedi gadael y cwmni.

Y ddau aelod o’r Uwch Dîm Rheoli sydd wedi gadael yw: Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr, Datblygu’r Celfyddydau a Richard Nicholls, Cyfarwyddwr, Gweithrediadau.

Hoffai Cyngor Celfyddydau Cymru ddiolch yn ddiffuant i’r holl bobl hyn am yr ymroddiad, yr egni a’r angerdd wrth weithio yn y celfyddydau; bu rhai staff yn gweithio gyda ni am dros ugain mlynedd. Dymunwn y gorau iddynt oll ar gyfer y dyfodol.

Cafodd y diswyddiadau eu gwneud yn unol â’n Polisi Diswyddo ac mewn ymgynghoriad â’r undeb sy’n cynrychioli ein gweithwyr.

O hyn ymlaen, bydd penderfyniadau ar grantiau bach cronfa ‘Creu’ yn cael eu gwneud o fewn wyth wythnos yn lle chwech, a grantiau mawr Creu yn cael eu penderfynu o fewn deg wythnos yn lle naw. (Sylwer ein bod wedi dileu y rownd Creu ar gyfer 3 Gorffennaf, fel y gallwn ail-ganolbwyntio’r rhaglenni cyfredol ac archwilio cyfleoedd ariannu wedi’u targedu.)

Mae pwysau cyllidebol ar draws ein holl weithgareddau, ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar draws ein holl grantiau, mae gan sawl cynllun lai o arian ar gael iddynt. Mae’n anochel felly y bydd y broses ymgeisio am grantiau yn gystadleuol iawn. Gyda llai o staff, bydd yn rhaid i ni deilwra ein cymporth a rhoi’r pwyslais ar y rhai sy’n ymgeisio am y tro cyntaf a’r rhai a all wynebu rhwystrau wrth wneud cais am gyllid.

Bydd cyfnod o addasu wrth i ni rannu cyfrifoldebau ac ad-drefnu. Diolchwn ymlaen llaw i chi am eich amynedd wrth i ni wneud y newidiadau hyn.

Drwy wneud yr addasiadau hyn, yn ogystal â newid y setliad ar gyfer cyllid aml-flwyddyn ac arbedion mewnol eraill, rydym yn hyderus na fydd yn rhaid gwneud rhagor o arbedion drwy ddiswyddiadau.