Rhaglenni ydynt i fynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth neu â phroblemau a heriau mewn gwahanol agweddau ar gelfyddydau Cymru.
Yr Adolygiad Buddsoddi oedd y broses a benderfynodd sut y bydd ein harian yn cael ei rannu rhwng gwahanol sefydliadau celfyddydol dros y blynyddoedd nesaf.
Roeddem wedi ymrwymo i edrych ar 14 maes gwaith penodol a oedd yn cynnwys adolygiad o ddawns Cymru, yn enwedig i gydnabod yr anawsterau yn y sector dawns gymunedol. Yn ystod yr Adolygiad Buddsoddi, daeth yn amlwg bod angen edrych ar y seilwaith dawns ac archwilio i sut olwg a allai fod ar ddarpariaeth y dyfodol.
Cynhaliwyd cyfarfodydd yn Rhagfyr 2023 a Mawrth 2024. Byddant hefyd yn digwydd ym mis Gorffennaf 2024, gydag aelodau allweddol o'r gymuned ddawns er mwyn deall cyd-destun presennol dawns Cymru.
Fel rhan o'r Ymyriadau Strategol Dawns, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig:
- Comisiynu adroddiad annibynnol manwl ar ddawns Cymru
Bydd yr adroddiad yn edrych ar bob agwedd ar ddawns Cymru ac ymgynghori ag artistiaid, cwmnïau, cyflwynwyr, cynulleidfaoedd a chyfranogwyr. Bydd yr adroddiad hefyd yn edrych ar arferion gorau dawns mewn gwledydd eraill yn ogystal â'r hyn sydd wedi gweithio'n dda mewn celfyddydau eraill yma. Dylai argymhellion yr adolygiad nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu. Mae'r tendr nawr ar GwerthwchIGymru.
- Nodi cyfleoedd ar gyfer cyfnewid ac arddangos rhyngwladol
Bydd ein staff yn nodi cyfleoedd i gynhyrchwyr a chyflwynwyr fynd i ddigwyddiadau rhwydweithio allweddol a digwyddiadau arddangos yn y DU ac yn rhyngwladol. Y cam cyntaf fydd creu bwrsariaethau i artistiaid a chynhyrchwyr fynd i Tanzmesse NRW. Mae’n arddangosfa ddawns enfawr sy’n digwydd yn yr Almaen bob dwy flynedd. Mae'r bwrsariaethau ar gael nawr gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Yn y cyfamser, mae gennym fesurau eraill ar waith i helpu'r gymuned ddawns:
- Mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a thrwy'r broses benodi’n gyhoeddus, rydym yn recriwtio aelodau ychwanegol i fod ar ein Cyngor. Fel rhan o'r broses, rydym wedi cryfhau ymhellach ein gwybodaeth a'n harbenigedd ym maes dawns drwy gyfeirio at ddawns yn y meini prawf.
- Rydym wedi ymrwymo arian cyfatebol at Angerdd Dawns y BBC yn Abertawe. Mae'r bartneriaeth gyda BBC Cymru a Chelfyddydau’r BBC yn rhan o dymor o hyrwyddo a dathlu dawns ar draws cynnyrch y BBC. Mae'r prosiect yn cysylltu â gŵyl lwyddiannus Dyddiau Dawns gan Ganolfan Gelfyddydol Taliesin, Abertawe sydd eleni yn rhan o ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed.
- Bydd ein Rheolwr Portffolio, Laura Drane, yn parhau gyda'i chyfres o sesiynau Cwrdd a Chyfarch i ymgysylltu ag artistiaid a sefydliadau ledled Cymru a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud.
- Rydym hefyd yn archwilio gwaith partneriaeth gyda'r Fenter Ddawns Deithiol Wledig am ei gwaith yng Nghymru, sy'n cynnwys penodi Llysgennad y Fenter i gael rhagor o hyrwyddwyr a/neu gynulleidfaoedd newydd a pharhau i gynnig sioeau dawns â chymhorthdal drwy gynllun y Fenter ar gyfer hyrwyddwyr teithio gwledig - yng Nghymru drwy ein cynllun Noson Allan.
- Rydym hefyd wedi croesawu’r garreg filltir o’r cydweithio cenedlaethol i gryfhau dawns ieuenctid yma. Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Bale Cymru wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i ymrwymo i wella ymgysylltiad, cyfranogiad a hygyrchedd ar gyfer dawns ieuenctid.