Fel rhan o bedwar diwrnod o berfformiadau o'r sioe Chocolate Cake yn Volcano, mae Rebecca Smith Williams yn cynnig dau berfformiad yn arbennig ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid gyda babanod ifanc.

Mae’r sioeau yma ar gyfer rhieni gyda babanod o dan 12 mis oed. Gallwch ddod i’r theatr heb boeni am eich plentyn yn gwneud sŵn. Dyw hwn ddim yn sioe i blant, ond i oedolion sydd yn digwydd bod â babi.

Bydd digon o le i brams, matiau i’r babis - a gwnewch chi be bynnag sy angen, bwydo, newid, magu. A bwyta cacen wrth gwrs.

Dim babi? Peidiwch â phoeni. Nid oes angen un arnoch i fynd i mewn i'r perfformiadau eraill gyda'r nos neu'r prynhawn.

Sioeau i Rhieni/Gwarchodwyr 11yb ar y 16eg a'r 18fed Awst

Sioeau i bawb arall Awst 17eg a'r 18fed am 7yh, a 19eg Awst am 3yh.

Sioe BSL ar y nos Wener.