Bydd yr elusen cerddoriaeth ieuenctid Sound Progression o Gaerdydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau dros yr haf gan arddangos ystod amrywiol o dalentau ifanc a genres cerddorol.
Mae’r rhaglen orlawn, sy’n llawn cerddoriaeth gyffrous, newydd a gwreiddiol, yn cynnig cipolwg i gynulleidfaoedd o’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr cerddoriaeth i ddod allan o Gymru. Mae’n cynnwys dros 20 o berfformwyr gan artistiaid unigol, deuawdau a bandiau sy’n perfformio ystod amrywiol o genres cerddoriaeth o Indie, Jazz i Hip Hop a Grime.
Gallwch weld y doniau ifanc sy’n perfformio yng Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd ddydd Sul 23 Gorffennaf ac yn Giovanni’s in the Bay ddydd Sul 30 Gorffennaf rhwng 3pm a 10pm. Nid oes tocyn ar gyfer y ddau ddigwyddiad ac maent am ddim. Os colloch chi nhw yn y bae ymunwch â nhw yn Nhafarn y Robin Hood, Treganna ddydd Sadwrn 5 Awst o 3pm-10pm. Mae tocynnau yn £5 a gellir eu prynu wrth y drws.
Yn cloi cyfres yr haf mae perfformiad dwy awr arbennig yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, lle bydd chwech o’r actau’n perfformio rhwng 6pm ac 8pm ddydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Awst, gan swyno pobl ifanc eraill o fewn Ardal Arddegau’r ŵyl.
"Roedd safon pob act gerddorol yn anhygoel. Un peth sydd wedi ei fuddsoddi ym mhawb yw eu dawn, eu syniadau yn hybu person ifanc yn 2023."
Jessica Perkins ar gyfer canolfannau Xcellence
Mae Sound Progression yn ymroddedig i wella bywydau pobl ifanc ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd i gyflwyno darpariaeth gerddoriaeth am ddim ledled Caerdydd. Mae ei rhaglen gydol y flwyddyn yn cynnwys sesiynau ar ôl ysgol ddwywaith yr wythnos yn Nhrelái, Llaneirwg, Llanedern, Sblot, Llanrhymni a Butetown ynghyd â darpariaeth yn ystod y dydd yn Grangetown a’r hwb canol dinas Grassroots. Mae'n cynnig llwybrau dilyniant trwy raglenni a phrosiectau pwrpasol gan gynnwys ei raglen perfformiad datblygu talent sydd hyd yma wedi cefnogi dros 50 o berfformwyr.