Ymunwch â’r artist Sophie Mak-Schram a’i chydweithwyr nos Wener 12 Medi i ddathlu agoriad To Shift a Stone yn Chapter, sef arddangosfa dwy ran yn Amgueddfa Cymru a Chapter.
Mae'r arddangosfeydd yn rhannu canlyniadau proses barhaus o negodi pŵer mewn perthynas â sefydliadau diwylliannol a chynrychiolaeth ddiwylliannol.
6–9pm: Chapter
Bydd hysbysfwrdd Sophie ar flaen yr adeilad i’ch croesawu. Mae Sophie a'i chydweithwyr wedi lapio, hongian ac addasu cyntedd, caffi a bar Chapter i ddychmygu sut gall ymgynnull ar draws gwahaniaethau ddigwydd yma.
7pm: Perfformiad gyda George H. Wale a Faye Tan
8pm: Cerddoriaeth gan Emma Daman Thomas
___
Ynglŷn â'r artist
Mae Sophie Mak-Schram yn ymgysylltu ag eraill mewn gwaith penodol i le mewn perthynas â grym, cydberchnogaeth, gwybodaeth a'r dyfodol. Mae'n gweithio gydag eraill, o ran ei dull a'i ffurf, ac yn tynnu ar arferion profiadol, artistig, dad-drefedigaethu ac ar y cyd er mwyn tynnu pobl at ei gilydd, ail-ddychmygu a dyfeisio. Mae Sophie yn tynnu ar ei phrofiadau personol a chyffredin o wahaniaethau diwylliannol, gwladychiaeth, hil a rhyw.
Mae'n aml yn defnyddio 'offeryn' fel trosiad barddonol a gwrthrych ymarferol i fynd i'r afael â beth rydyn ni'n ei wybod a sut, a pha ran ydyn ni'n ei chwarae yng nghysyniad pŵer a'r syniad o berthyn. Mae Sophie'n dod â phobl ynghyd, yn hwyluso, yn ysgrifennu, yn darllen, yn creu gwrthrychau a'u defnyddio i ddeall neu wrando.
Am Safbwynt(iau)
Mae Safbwynt(iau) yn broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru sy'n ceisio creu newid sylweddol yn y ffordd mae'r sector treftadaeth a chelfyddydau gweledol yn adlewyrchu amrywiaeth ethnig a diwylliannol ein cymdeithas. Cefnogir y project gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r cywaith i wireddu amcanion diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.