Dewch i gyfarfod Partneriaid Strategol AM!

Pob diwrnod yr wythnos hon, mae AM yn dathlu ein Partneriaid Strategol drwy rannu eu cynnwys a’u prosiectau ar ein tudalen flaen.

Meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr AM:

“Rydym ni’n hynod falch o’n Partneriaethau Strategol yma yn AM. Maen nhw’i gyd yn cyflawni gwaith gwbl hanfodol ac yn cynrychioli gwerthoedd allweddol a chreiddiol i ddiwylliant Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau cyd-weithio er gwell”

Dysgwch fwy am ein Partneriaid Strategol isod ac ewch i ddarganfod mwy am eu holl waith ar dudalen flaen AM nawr!