Bydd Groundwork Collective yn cynnal digwyddiad Scratch arall gyda chefnogaeth gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a chyllid CCC.

Mae Groundwork Collective yn eich gwahodd i ddod i gefnogi artistiaid: George H. Wale, Krystal Campbell ac Iza Jem i rannu gwaith newydd cyffrous ar gamau cynnar eu datblygiad.

Maen nhw’n chwilio am gynulleidfa sydd â diddordeb mewn: gweld y gwaith diweddaraf i ddod gan artistiaid Cymraeg a Chymreig, bod yn dyst i’w gwaith a rhoi adborth ar bethau fel: eu profiad personol o’r gwaith, pa feddyliau, cwestiynau a godwyd, beth gweithio, efallai beth nad oedd?! a mwy...

Pryd: Dydd Sadwrn 13 Ebrill, 3-5pm

Ble: Tŷ Dawns, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Pierhead street, CF10 4PH

Cynulleidfa - Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond mae angen cofrestru i fynychu (oherwydd cynulleidfa gyfyngedig i 30 o westeion)