Gŵyl yng Nghaerdydd dan arweiniad pobl fyddar yw Deaf Gathering Cymru, wedi’i chreu gan Ganolfan Gelfyddydau Chapter a’r artistiaid ac ymgynghorwyr creadigol byddar Jonny Cotsen a Heather Williams. Fe’i cynhelir rhwng 5-8 Medi 2024, ac mae’r dathliad pedwar diwrnod yn agored i bawb, ac yn adeiladu ar lwyddiant gŵyl Byddar gyda’n Gilydd y llynedd, gan gynnig rhaglen ddeinamig o ddiwylliant a sgyrsiau gyda safbwyntiau byddar yn ganolog iddi. 

Cynhelir y digwyddiad yma gan bobl fyddar ac ar gyfer pobl fyddar, ond mae croeso cynnes i bobl sy’n clywed hefyd. Cefnogir y rhaglen gyda Iaith Arwyddion Prydain, capsiynau byw, a chyfieithu ar y pryd o Iaith Arwyddion Prydain i Saesneg. 

Mae Deaf Gathering Cymru yn cynnig pedwar diwrnod o ddigwyddiadau, gweithgareddau, sgyrsiau a pherfformiadau, gyda phopeth o Ioga i theatr, o symposiwm i noson gomedi meic agored! Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau am ddim, gan ein bod ni am gadw’r ŵyl yn agored i bawb! 

Nos Iau 5 Medi, byddwn ni’n dechrau ar y dathliadau gyda pherfformiad drymio yn ein caffi bar. Yn dilyn sioe llawn dop y llynedd, rydyn ni’n falch o groesawu’r digrifwr Gavin Lilley ’nôl, a fydd yn rhannu ei straeon doniol am iaith, bywyd a diwylliant drwy harddwch iaith arwyddion. Gyda chapsiynau byw a dehongliad troslais, mae modd i gynulleidfaoedd byddar ac sy’n clywed fwynhau hiwmor chwareus Gavin. 

Ddydd Gwener 6 Medi, byddwn ni’n cynnal Symposiwm Deaf Gathering, lle bydd cyfle i sgwrsio am lesiant â byddardod, pam fod cynhwysiant yn bwysig, pwysigrwydd modelau rôl o Gymru a mwy. Bydd y prif areithiau’n cael eu rhoi gan Sara Rhys Jones, Ruth Montgomery, Shaun Fitzgerald a Levi Slade. Yn dilyn diwrnod o sgyrsiau bydd digwyddiad Dragons’ Den Byddar, lle bydd cyfle i chi gyflwyno eich syniadau busnes i banel o feirniaid arbenigol, fydd yn cynnwys Gavin Lilley, Jonny Cotsen, Shaun Fitzgerald, Rubenna Aurangzeb-Tariq a Sara Rhys Jones, wedi’i gyflwyno gan Heather Williams. 

Mae’r ail ddiwrnod hefyd yn cynnwys Chapter MovieMaker, sef dangosiad o ffilmiau byrion gan wneuthurwyr ffilm byddar. Yn Theatr Seligman, mae The Rest of Our Lives gan Jo Fong a George Orange yn adrodd stori hen glown a hen ddawnsiwr sy’n delio â bywyd canol oed gyda’i gilydd gyda hiwmor, tynerwch a’r optimistiaeth ryfeddaf. Mae’r perfformiad yn cynnwys dehongliad Iaith Arwyddion Prydain integredig gan Katie Fenwick. 

Bydd dydd Sadwrn yn ddiwrnod prysur gyda marchnad dan arweiniad pobl fyddar, gweithdy clyweledol gyda Ruth Montgomery, teithiau tywys Iaith Arwyddion Prydain yn yr oriel gydag Our Visual World, gweithdy comedi Gavin Lilley, Clwb Sinema Byddar gyda Heather Williams, a chyfle i roi tro ar gomedi byw yn ein Noson Meic Agored. Byddwn ni’n cloi’r noson gyda DJ Tyler yn y caffi bar. 

Byddwn ni’n arafu ychydig ddydd Sul, gyda chyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau creadigol ac ymlaciol, gan gynnwys clwb llyfrau Sarah Marsh, Ioga Byddar gydag Emma Callaghan, gweithdai celf gydag Alex Miller a Vicky Barber-Crimes, perfformiad anhygoel o ddoniol ac anniben gan Theatr OftheJackel, a llawer, llawer mwy... 

Mae tocynnau’n cael eu hychwanegu’n wythnosol. I gadw mewn cysylltiad, dilynwch Deaf Gathering Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol @deafgatheringcymru neu cofrestrwch i gael cylchlythyr Chapter yma: https://www.chapter.org/

Cefnogir Deaf Gathering Cymru drwy haelioni Cyngor Celfyddydau Cymru, SignHealth, Cadwyn, CCHA, Eversheds Sutherland, Linc a Tai Pawb. 

Amserlen lawn: 



Nos Iau 5 Medi 

5.30pm Derbyniad diodydd 

6pm Perfformiad drymio 

7.30pm Comedi Gavin Lilley 



Dydd Gwener 6 Medi 

10am-3pm Symposiwm Deaf Gathering 

3.30pm Dragon’s Den Byddar 

6pm MovieMaker Byddar 

8pm Jo Fong a George Orange: The Rest of Our Lives 



Dydd Sadwrn 8 Medi 

11am-5pm Stondinau dan arweiniad byddar  

11.15am Taith Oriel Iaith Arwyddion Prydain 

12.15pm Taith Oriel Iaith Arwyddion Prydain 

1.30pm Gweithdy Comedi Gavin Lilley 

3.30pm Cyflwyniadau artistiaid a thrafodaeth bord gron 

5pm Clwb Sinema Byddar gyda ffilm â dehongliad Iaith Arwyddion Prydain 

8pm Meic agored yn y caffi bar 

8.45pm Set DJ set yn y caffi bar 



Dydd Sul 9 Medi 

10am Syndrom Bwrdd Bwyd gyda brecwast 

11am Gweithdy Celf 

11.15am Darlleniad llyfr Jonny Cotsen 

12pm Clwb Llyfrau gyda Sarah Marsh 

1pm Perfformiad awyr agored o Splat! i’r teulu cyfan 

1.30pm Ioga Byddar gydag Emma Callaghan 

2.45pm Gweithdy Celf gyda Vicky Barber-Crimes 

5.30pm Dangosiad Ffilm o Extraordinary Wall of Silence gyda thrafodaeth dan arweiniad David Ellington 

Ffotograff: Mareah Ali (2023)