Bydd y coreograffydd enwog o Sbaen, Mario Bermúdez, yn creu gwaith newydd yn arbennig ar gyfer cwmni Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2023, i'w berfformio am y tro cyntaf yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd.
Fel rhan o gwrs preswyl dwys Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru dros yr haf, bydd 20 o ddawnswyr ifanc mwyaf talentog Cymru yn dod at ei gilydd yng Nghaerdydd i ddysgu gan restr o goreograffwyr talentog ac artistiaid dawns. Eleni, am y tro cyntaf, byddant yn gweithio gyda'r coreograffydd clodwiw Mario Bermúdez i greu gwaith newydd sbon sy'n archwilio themâu symudiad llwythol, gweadau a pherthnasoedd yn ystod eu cyfnod preswyl pythefnos o hyd.
Mae Mario Bermúdez, Cyfarwyddwr Artistig a Choreograffydd Marcat Dance, yn grëwr toreithiog sydd wedi datblygu iaith symud adnabyddadwy sy'n enwog am ei chorfforoldeb deinamig a'i heffaith emosiynol hirhoedlog. Mae ei waith eisoes wedi cael ei berfformio gan nifer o gwmnïau rhyngwladol gan gynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd Jamie Jenkins, Cynhyrchydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru: “Mae'r cydweithrediad hwn yn cynrychioli cydgyfeiriant cyffrous o dalent, creadigrwydd ac ymroddiad. Mae'n destament i'r ymgais ddiflino am ragoriaeth artistig sy'n diffinio Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru. “
Bydd y dawnswyr ifanc hefyd yn gweithio gyda'r coreograffydd o Gymru, a chyn-fyfyriwr DGIC, Daisy Howell — gan greu gwaith newydd ar gyfer ffilm wedi'i ddylanwadu gan ddiwylliant rêf ac egni a natur chwareus symud.
Bydd yr aelodau hefyd yn elwa o ddosbarthiadau dyddiol a rhaglen les lawn. Bydd y dawnswyr ifanc 16-22 mlwydd oed o Gymru yn elwa o'r rhaglen, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddi a pherfformio o'r radd flaenaf. Dewiswyd y dawnswyr drwy glyweliad, gyda chlyweliadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ym mhob rhan o Gymru — yn cynrychioli'r gorau o dalentau ifanc Cymru.
Gwaith Newydd gan Mario Bermúdez
Bydd y gwaith newydd hwn, fydd yn cael ei berfformio gan gwmni DGIC 2023, yn cael ei berfformio am y try cyntaf erioed yng Nglan yr Afon, Casnewydd, ddydd Gwener 3 a dydd Sadwrn 4 Tachwedd 2023. Bydd y gwaith yn un o dri darn fydd yn cael eu perfformio bob nos, gyda gweithiau gan Gyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru Darius James a'r coreograffydd Marcus Jarrell Willis yn cael eu perfformio gan gwmni dawns Ballet Cymru.
Rhaglen drwy gydol y flwyddyn Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Dim ond un rhan o raglen waith Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yw cwrs preswyl yr haf, gan gynnwys:
- Aelodau DGIC yng Ngŵyl U.Dance 2023 — Fe wnaeth aelodau DGIC, Isaac a Layla, goreograffu a pherfformio eu deuawd eu hunain fel rhan o Ŵyl Genedlaethol U.Dance yn Newcastle. Fel rhan o ddathliad o ddawns ieuenctid o bob cwr o'r DU, a gyflwynwyd gan One Dance UK, bu Isaac a Layla yn cynrychioli Cymru ar Lwyfan y Gogledd, gan swyno cynulleidfaoedd o bob cwr o'r DU. Roedd eu gwaith nid yn unig yn dangos eu gallu technegol eithriadol, ond hefyd eu dawn dweud stori trwy berfformio. Wrth sôn am y perfformiad, dywedodd Jamie Jenkins, Cynhyrchydd DGIC: “Rydym ni’n hynod falch o'r ddau ddawnsiwr nodedig hyn o Gymru sydd wedi cynrychioli ein cenedl gyda chymaint o geinder ac angerdd ar Lwyfan y Gogledd, Newcastle. Mae eu taith i Ŵyl Genedlaethol Dawns U yn destament i'w gwaith caled.”
- Celtic Collective — bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae'r rhaglen gyfnewid hon gyda Chwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban yn rhoi cyfle i berfformwyr ifanc yn y ddwy wlad ddysgu gan y naill a’r llall a gan artistiaid proffesiynol gwahanol. Yn 2023, mae un dawnsiwr o Gymru eisoes wedi profi bywyd ar daith fel dawnsiwr cwmni gyda NYDCS, gan gynnwys perfformio yng Ngŵyl Ddawns Ieuenctid Dulyn — a bydd un dawnsiwr o'r Alban yn perfformio fel rhan o gwmni DGIC yn y cwrs preswyl eleni a'r perfformiad cyntaf yn y byd yng Nglan yr Afon, Casnewydd.
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn un o'r chwe ensembles ieuenctid cenedlaethol sy’n cael eu cyflwyno gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yr elusen ar gyfer perfformwyr ifanc a phobl greadigol 11-25 mlwydd oed yng Nghymru. Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn derbyn cyllid rheolaidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, fel aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru.