Mae Labordy Arloesi Prydain Di-Garbon, sydd yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen, wedi creu grŵp amrywiol i ddatblygu'r strategaeth ar y cyd ag artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac arbenigwyr amgylcheddol.

Comisiynodd Cyngor Celfyddydau Cymru y strategaeth mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru. Ystyria ffyrdd o ddefnyddio'r celfyddydau i gysylltu pobl â'r argyfwng a beth sydd ei eisiau ar artistiaid a sefydliadau i leihau effaith eu gwaith ar yr amgylchedd.

Dengys y strategaeth ffordd ymlaen i’r celfyddydau gyrraedd targedau amgylcheddol:

  • lleihau'r ôl troed carbon
  • cadw natur a bioamrywiaeth
  • rhai Llywodraeth Cymru
  • i’r  sector cyhoeddus fynd yn garbon niwtral erbyn 2030
  • i Gymru fynd yn sero-net erbyn 2050

Rhwng Tachwedd 2022 a Mawrth 2023 bydd y Labordy yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein. Am ragor o wybodaeth a sut i gymryd rhan, cofrestrwch i’n sesiwn rhoi gwybodaeth  4-5pm ddydd Mawrth 11 Hydref 2022 yma: https://events.zoom.us/e/view/7l9Lb5JARUC3BKi4TPcdvg?id=7l9Lb5JARUC3BKi4TPcdvg

Gallwch hefyd lenwi arolwg ar-lein:Strategaeth Cyfiawnder Hinsawdd i’r Sector Celfyddydau yng Nghymru

Bydd yr arolwg yn cau Dydd Mercher, 16 Tachwedd 2022.

"Mae creadigrwydd yn allweddol i ddatrys yr argyfwng natur a’r hinsawdd. Gall y  celfyddydau gyfrannu at y frwydr drwy ddychmygu dyfodol cwbl wahanol. Rydym wedi  ymrwymo i gefnogi ffyrdd cynaliadwy o weithio. Pleser yw gydweithio â'r Ganolfan i  ddatblygu’r strategaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill yn y sectorau celfyddydol ac amgylcheddol."

Michael Elliot, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

"Mae’n wych gael y cyfle i weithio gyda’r Cyngor ar y strategaeth fel rhan o’n partneriaeth Natur Greadigol. Mae'r argyfwng yn rhan anhepgor o’n bywyd beunyddiol erbyn hyn ac mae angen pob cymorth posibl yn yr ymdrech i ailsadio’r cwch. Mae gan y celfyddydau rym i gysylltu pobl â’r byd natur a mynegi eu hofnau a’u gobeithion am y dyfodol. Dengys Cymru ei chyfrifoldeb byd-eang drwy ganolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol, trechu anghydraddoldeb a chydweithio’n rhyngwladol.”

Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru.

"Dwi wrth fy modd yn gweithio gyda’r Cyngor ar y strategaeth. Mae gan y celfyddydau swyddogaeth bwysig yn y maes. Edrychaf ymlaen yn arw at weithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau o bob rhan o Gymru i lywio'r strategaeth. Bydd y labordy’n sicrhau clywed pob llais a gweld cyfraniad pawb at y strategaeth a fydd yn  hygyrch, effeithiol ac yn addas at y diben."

Dr Anna Bullen, Rheolwr Labordy Arloesi’r Ganolfan.

Mae’r Cyngor yn rhannu Memorandwm o Ddealltwriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru o'r enw Natur Greadigol.