Yn 2025/26, bydd cyllideb ddrafft Cymorth Grant Llywodraeth Cymru i Cyngor Celfyddydau Cymru yn £31.588m, i fyny 3.6% o £30.493m yn 2024/25.
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr y Cyngor:
“Rydym yn croesawu'r cynnydd bychan yn ein cyllideb o 3.6% fel cam i'r cyfeiriad cywir o ran cefnogi’r celfyddydau yng Nghymru. Rydym hefyd yn falch o fod yn gweithio gyda'r Llywodraeth ar raglen gyfalaf a fydd yn cael ei chyhoeddi maes o law. O unigolion creadigol a grwpiau i’r theatrau, orielau, lleoliadau ac eraill yr ydym yn eu cefnogi, mae’r celfyddydau’n gwbl angenrheidiol i’n bywydau beunyddiol, gan gyflawni buddiannau economaidd ac iechyd a bywiogi ein cymunedau.
"Mae'r dyfodol ariannol yn edrych yn heriol o hyd am fod llawer o sefydliadau celfyddydol yn wynebu pwysau difrifol. Maent yn gorfod dygymod â'r cynnydd a fydd mewn Yswiriant Gwladol i gyflogwyr, y gystadleuaeth ffyrnig am ffynonellau eraill o arian a chostau rhedeg uwch. Rydym am feithrin yr awyrgylch iawn i greu profiadau celfyddydol o safon. Byddwn yn gwrando'n astud ar bryderon y sector i gyfeirio ein harian eleni lle bydd yn cael yr effaith fwyaf."
Mae rhagor o wybodaeth am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yma: https://www.llyw.cymru/
Nid yw'r gyllideb yn effeithio ar waith y Cyngor fel dosbarthwr arian y Loteri Genedlaethol.