Rydym am gryfhau ein Rhwydwaith Cymorth Hygyrchedd a chynyddu ein gallu i helpu ymgeiswyr i oresgyn rhwystrau wrth ymgeisio am ein harian. Drwy ffurfioli'r rhwydwaith, ein nod yw creu cymuned gryfach a mwy cysylltiedig o ddarparwyr.
Hoffem ffurfio rhwydwaith o hyd at 15 unigolyn amrywiol, profiadol.
Beth yw Cymorth Hygyrchedd?
Mae ar gael i bobl sy'n F/fyddar, anabl, niwroamrywiol neu sydd ag anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl neu gorff.
Fel arfer mae’n digwydd i helpu ymgeiswyr i lunio a chyflwyno cais. Ond mae’n gallu digwydd cyn ymgeisio hefyd neu wrth lunio adroddiad diweddu ar ôl i brosiect ddod i ben.
Dyma’n hegwyddorion wrth gynnig cymorth hygyrchedd: parch, grymuso a lles.
Y gwaith
Mae darparwyr cymorth hygyrchedd yn helpu ymgeiswyr i gyfathrebu syniadau’r ymgeiswyr yng ngeiriau’r ymgeiswyr.
Ni ddylent:
• rhoi cyngor datblygu
• gwneud rhagdybiaethau am anghenion neu gynnig yr ymgeisydd
• cynnig yr un gefnogaeth gyffredinol i bawb
Yn hytrach, rhaid teilwra cefnogaeth i ofynion pob unigolyn.
Mae rhagor o wybodaeth am sut mae cymorth hygyrchedd yn gweithio ar gael ar ein gwefan.
Tâl
• Hyd at £37.50 yr awr
• 1 diwrnod = 8 awr
• Byddwn yn codi archeb brynu pan fo’r cymorth wedi’i drefnu. Bydd darparwyr yn ein hanfonebu ar ôl gorffen y gwaith
Manyleb y person
Rydym yn chwilio am weithwyr llawrydd sydd:
• yn cyfathrebu’n rhagorol ac ag empathi a chydymdeimlad ac sy’n gallu ymaddasu
• yn amyneddgar, sensitif a rheoli eu hamser
• â sgiliau TG ac sy’n gallu defnyddio gliniadur gyda Teams/Zoom arno
• yn dangos profiad o gefnogi pobl o'r grwpiau uchod
Dylai darparwyr darparu cymorth yn hyderus, hyblyg ac effeithiol gan rymuso ymgeiswyr drwy ddymchwel y rhwystrau i'n gwasanaethau.
Wrth wraidd y gwaith mae lles yr ymgeiswyr, y staff a’r darparwyr cymorth. Rhaid bod yn gyfarwydd ag arferion lles a safonau diogelu CIISA.
Telerau
• Gwaith llawrydd – nid ydym yn gwarantu gwaith ond byddwn yn galw arnoch pan fydd angen
• Rydym yn disgwyl ichi allu cynnig o leiaf naw diwrnod y flwyddyn
• Byddwn yn galw am ddarparwyr ychwanegol yn y dyfodol
• Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd eisoes yn darparu cefnogaeth yn ogystal ag ymgeiswyr newydd
Sut i ymgeisio
Llenwch y ffurflen.
Dyddiad cau: 1pm ar 10 Hydref 2025
Proses ddewis
• Byddwn yn asesu’r ceisiadau am y sgiliau angenrheidiol
• Byddwn yn gwahodd ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer i sgwrs anffurfiol
• Byddwn yn rhoi gwybod am ein dewis terfynol erbyn 21 Tachwedd 2025
Cyswllt
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â Menna, Swyddog Grantiau a Hygyrchedd: cymorth.hygyrchedd@celf.cymru