Fel rhan o'u rhaglen reolaidd o arddangosfeydd a digwyddiadau, bydd StudioMADE yn cynnal Walkie Talkie, cyfres o ddangosiadau ffilm fud gan artistiaid o’r rwydwaith delweddau symudol, LUX. Mae’r artistiaid dan sylw yn cynnwys Guy Sherwin a’r artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru Freya Dooley, Carol Breen, Zillah Bowes, Kerry Baldry, Sean Vicary, Paul Eastwood, Catherine Wynne-Paton, Laura Philips a Lauren Heckler.
Bydd y dangosiadau cyfnos i’w gweld trwy ffenestri’r Carriageworks ar Love Lane yn Ninbych, bob nos o 27ain Ionawr hyd at 3ydd Chwefror 2024, 4.30 - 7.30yh.
Bydd digwyddiad undydd yn Theatr Twm o’r Nant yn Ninbych hefyd yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 3ydd Chwefror, mewn partneriaeth â Benjamin Cook o LUX a Kim Knowles, sy’n cynnwys ffilmiau mud gan artistiaid LUX Cymru ac o’r archif. Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys perfformiad byw gan Guy Sherwin a thrafodaeth dan gadeiryddiaeth Kim Knowles gydag artistiaid y fforwm LUX.
Man cychwyn Walkie Talkie yw cyfnod tawel ffilm cyn y ‘talkies’ – foment drosiannol yn y 1920au, cyn y cyflwyniad o ddeialog wedi’i recordio i’w chwarae ar yr un pryd â delweddau ar y sgrin. Mae’r prosiect yn archwilio’r berthynas rhwng distawrwydd a gwrando, gan bwysleisio’r ystyron a’r cysylltiadau y mae gwylwyr eu hunain yn eu rhoi i’r ddelwedd symudol.
Mae dangosiadau ffilm cyfnos ar y stryd yn ddigwyddiadau di-docyn ac yn agored i'r cyhoedd. Gellir archebu tocynnau ar gyfer digwyddiad undydd yn Theatr Twm o’r Nant ar 3ydd Chwefror trwy Eventbrite.