Bydd y Cynhyrchydd Cydweithio yn sicrhau bod cyfranogiad cymunedol a chyd-greu wedi’u gwreiddio yn holl brosiectau a chynyrchiadau National Theatre Wales (NTW).

Mae’r rôl yn cynnwys:

  • cryfhau perthynas NTW â chymunedau, artistiaid, gwneuthurwyr theatr, cwmnïau a lleoliadau ledled Caerdydd a’u gwybodaeth amdanynt, gan gynnwys dod o hyd i lwybrau i’n helusen trwy ein model ymgysylltu sy’n arwain y sector, TEAM.
  • gweithio ar draws yr adrannau Cynhyrchu a Chydweithio i fynd ar drywydd cyfleoedd datblygu creadigol a chyd-greu.
  • chwilio am gyfleoedd ymgysylltu creadigol i gyfranogwyr o bob oed o amgylch cynyrchiadau NTW.
  • cefnogi TEAM Panel, grŵp o hyd at 15 o artistiaid, actifyddion, addysgwyr ac arweinwyr cymunedol o ar draws Cymru y mae eu lleisiau’n llywio pob agwedd ar ein gwaith, o’r straeon a adroddwn a’r bobl rydym yn eu cyflogi i’r mannau lle rydym yn creu.
  • cyfleoedd i gymryd rhan mewn hyfforddiant sgiliau a datblygiad proffesiynol pwrpasol.

Fel cyflogwr cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, byddwn yn ystyried ymgeiswyr sydd angen trefniadau gweithio hyblyg. Cysylltwch i drafod hyn.

Cefnogir y rôl tymor penodol newydd hon gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd, ac felly rydym yn dymuno recriwtio ymgeisydd sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, sydd â dealltwriaeth o gymunedau Caerdydd.

 

  • Tymor: Swydd llawn amser, cyfnod penodol tan 28 Chwefror 2025
  • Cyflog: £35,000 y flwyddyn
  • Dyddiad cau: Mer 3 Ion 2024, 17:00
  • Dyddiadau Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 8 Ionawr 2024