Mi fydd un o uchafbwyntiau rhaglen pen-blwydd Theatr y Sherman yn 50 yn dychwelyd i’r theatr yng Nghaerdydd - ac yn mynd ar daith o amgylch dau leoliad arall yng Nghymru - yn gynnar yn 2025.

Cydiodd Housemates gan Tim Green, sy'n adrodd stori ryfeddol a ddigwyddodd ychydig fetrau o ddrysau’r Sherman, yng nghalonnau cynulleidfaoedd ac enillodd ganmoliaeth enfawr gan feirniaid yn ystod ei rhediad gwreiddiol yn 2023 (★★★★★, The Stage, ★★★★ The Guardian, Theatr Gorau Cymru 2023, Wales Arts Review)

Mae’r cynhyrchiad nawr yn paratoi i ddychwelyd i Theatr y Sherman (22 Chwefror-8 Mawrth 2025) cyn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth (27-29 Mawrth) a Theatr y Torch , Aberdaugleddau (2-4 Ebrill). Caiff mwy o leoliadau eu cyhoeddi maes o law.

Yn y 1960au, gofal sefydliadol oedd ffawd llawer o bobl ag anabledd dysgu ac ni chafodd y sefyllfa fawr o her. Treuliodd llawer o bobl ag anableddau dysgu eu bywydau cyfan mewn sefydliadau, yn anaml yn gweld na'n dod ar draws y byd y tu allan. Ond wedyn, yn y 70au cynnar, digwyddodd rhywbeth syfrdanol mewn tŷ yng Nghaerdydd, stryd i ffwrdd o’r Sherman, a ddaeth yn fodel newydd ar gyfer y ffordd y mae pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cefnogi.

Deilliodd Housemates o ddrama sain fer Tim Green o’r un enw, a gomisiynwyd gan Theatr y Sherman ar gyfer ei chyfres cyfnod clo, Calon Caerdydd.

Mae’r ddrama hynod deimladwy hon yn llawn caneuon poblogaidd o’r 70au sy’n cael eu chwarae’n fyw, a caiff ei pherfformio gan gast o actor-gerddorion niwrowahanol a niwro-nodweddiadol gan gynnwys aelodau o Academi Hijinx. Enwebwyd un ohonynt, Gareth John, am y wobr Y Perfformiwr Gorau mewn Drama yn The Stage Debut Awards 2024. Caiff Housemates ei chyd-gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig y Sherman Joe Murphy a Chyfarwyddwr Artistig Hijinx Ben Pettitt-Wade.

Mae sawl aelod o’r cast gwreiddiol yn dychwelyd, yn cynnwys yr actorion Hijinx Gareth John (Meet Fred Hijinx & Blind Summit, Club Supreme Hijinx & Ramshackalicious), Lindsay Spellman (Meet Fred Hijinx & Blind Summit, The Crash Test Hijinx), Matthew Mullins (Rock Cliché, The Crash Test Hijinx) a Richard Newnham (Meet Fred Hijinx a Blind Summit, The Crash Test Hijinx) ochr yn ochr â James Ifan (Tales of the Brothers Grimm, A Christmas Carol Theatr y Sherman), Caitlin Lavagna (Operation Julie Theatr na nÓg; Fisherman's Friends: The Musical), Peter Mooney (Beautiful Curve Theatre/Theatre Royal Bath; Just So Watermill Theatre) ac Eveangeleis Tudball (Generation Atrium Prifysgol De Cymru). Yn ymuno â nhw eleni mae Emily Ivana Hawkins (A Christmas Carol, O.G. Theatr y Sherman),

Mae Innovate Trust, sef yr elusen a sefydlodd y tŷ dan yr enw CUSS, yn bartneriaid prosiect. Heddiw, mae Innovate Trust yn parhau i gefnogi a grymuso pobl ag anableddau dysgu ar draws de Cymru. Hoffai Theatr y Sherman a Hijinx fynegi eu diolch i Innovate Trust am eu mewnbwn i ddatblygiad y ddrama.