Diolch i gefnogaeth gan Avison Young, rydym yn falch o gynnig nifer cyfyngedig o leoedd bwrsariaeth ar gyfer Cynhadledd 2024: Gwneud i Theatrau Ffynnu a gynhelir ddydd Mawrth, 8 Hydref yn The Lowry, Salford. Bydd yna hefyd daith theatr ddewisol (hanner diwrnod) ddydd Mercher, 9 Hydref.

Mae lleoedd bwrsariaeth ar gael ar gyfer:

  • Gweithwyr llawrydd
  • Myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch sy’n ymwneud â themâu'r gynhadledd
  • Cynrychiolwyr o leoliadau theatr yn y DU gyda llai na 10 o weithwyr parhaol ac nad ydynt yn derbyn cyllid rheolaidd gan gyngor y celfyddydau (ACE/Creative Scotland/CCC/ACNI). Uchafswm o un cynrychiolydd fesul sefydliad.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tocyn am ddim ar gyfer y gynhadledd a chostau teithio fel a ganlyn:

  • Hyd at £120 o gostau teithio ac 1 noson o lety os oes angen (llety i’w drefnu gan y Theatres Trust) ar gyfer derbynwyr o’r tu allan i Fanceinion Fwyaf
  • Hyd at £20 o gostau teithio i dderbynwyr o Fanceinion