Gyda thymor hwylus yr Haf eisoes ar y gweill, mae Pedwarawd Ceridwen wrth ei bodd yn cyhoeddi pâr o Gyngherddau Prynhawn ym mis Awst, a fydd yn gweld y grwp yn dychwelyd i un o dlysau cudd Caerdydd - Cwrt Insole. 

Bydd y cyntaf o'r cyngherddau yn cynnwys cerddoriaeth i driawd llinynnol gan Schubert, Kodály a Beethoven. Mae Ceridwen yn hapus iawn i gydweithio gyda Frances Higgs, Fiola, fel cerddor gwadd i'r cyngherdd hwn. Ymunwch â ni ar Ddydd Gwener 11eg Awst 2023 am 1pm yn Yr Ystafell Filiards yng Nghwrt Insole. 

Dydd Gwener 11eg Awst 2023, 1pm
Yr Ystafell Filiards yng Nghwrt Insole
Ffordd Fairwater, Caerdydd, CF5 2LF

Rebecca Totterdell, Feiolin
Rosalind Acton, Soddgrwth
Frances Higgs, Fiola

Schubert: Triawd Llinynnol yn Bb Fwyaf – D.581 [23′]
Kodály: Intermezzo i Driawd Llinynnol [6′]
Beethoven: Triawd Llinynol yn G Fwyaf – Op.9, No.1 [27′]

Bydd yr ail o'r cyngherddau hyn yn cynnwys cerddoriaeth i bedwarawd llinynnol gan Haydn a Mendelssohn. Unwaith eto, mae Ceridwen yn hapus iawn i gydweithio gyda Laura Sinnerton, Fiola, fel cerddor gwadd i'r cyngherdd hwn. Ymunwch â ni ar Ddydd Iau 24ain Awst 2023 am 1pm yn Y Cyfarchfa yng Nghwrt Insole. 

Dydd Iau 24ain Awst 2023, 1pm
Y Cyfarchfa yng Nghwrt Insole
Ffordd Fairwater, Caerdydd, CF5 2LF

Lowri Porter, Feiolin | Rebecca Totterdell, Feiolin
Rosalind Acton, Soddgrwth | Laura Sinnerton, Fiola

Haydn: Pedwarawd Llinynnol yn D Leiaf – Pumedau – Op.76, No.2 [23′]
Mendelssohn: Pedwarawd Llinynnol yn D Fwyaf– Op.44, No.1 [24′]

​Gallwch archebu tocynnau arlein yma: www.ticketsource.co.uk/ceridwenquartet

Tocynnau: £11 Pris Llawn / £5 Myfyrwyr / Am Ddim i Blant

Os byddwch yn archebu tocyn i'r ddwy cyngherdd gyda'i gilydd, cewch ddisgownt o 20% oddi wrth bris eich archeb.

Gobeithiwn eich gweld yn ystod y cyngherddau yma ym mis Awst.