Heddiw, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cyhoeddi dathliad diwylliannol i nodi ein diwrnod cenedlaethol. Bydd Gŵyl Dewi, sy’n ddatblygiad o Gŵyl Cymru, yn digwydd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi gyda digwyddiadau yn ymwneud a phêl-droed a'r celfyddydau yn cael eu cynnal ledled Cymru rhwng dydd Gwener 1 Mawrth – dydd Sadwrn 2 Mawrth 2024.

Bwriad CBDC a Chyngor Celfyddydau Cymru yw rhoi llwyfan i bobl ledled Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi – gyda diwylliant Cymreig a phêl-droed wrth galon eu cymunedau lleol.

Bydd gigs a pherfformiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau annibynnol a thafarndai cymunedol ar draws y wlad – gydag ymddangosiadau arbennig gan rai o arwyr y byd pêl-droed.

Mae CBDC a Chyngor Celfyddydau Cymru yn awyddus i ddychwelyd i’r cymunedau a gefnogodd ymgyrch hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA yn 2022 drwy eu gwahodd i gyd-ddathlu ein diwrnod cenedlaethol.

Ymhlith y lleoliadau a'r grwpiau cymunedol sy'n rhan o'r dathliadau mae Clwb Ifor Bach, Neuadd Ogwen, Cell B a Gŵyl Arall. Bydd tafarndai sy’n eiddo i’r gymuned gan gynnwys Y Plu, Tafarn yr Eagles a Thafarn Sinc yn cynnal digwyddiadau, ac mae mwy o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu.

Meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru:

“Mae’n bwysig ein bod ni, ar ein diwrnod cenedlaethol, yn gallu dathlu diwylliant anhygoel Cymru gyda’n gilydd!

“Rwy’n falch bod CBDC unwaith eto yn gweithio ochr yn ochr â’n partner, Cyngor Celfyddydau Cymru, i gynnig dathliad o bêl-droed a’r celfyddydau mewn cymunedau ledled Cymru dros benwythnos Gŵyl Dewi.

“Mae ein cysylltiadau â chymunedau trwy bêl-droed yn werthfawr iawn, ac rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r lleoliadau a gefnogodd Gŵyl Cymru yn ystod ein hantur Cwpan y Byd yn 2022. Rydym am i bawb wneud y gorau o benwythnos Gŵyl Dewi trwy fynychu digwyddiadau yn lleol.”

Meddai Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr (Datblygu Celfyddydau) Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch iawn o gael cydweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru unwaith eto. Mae partneriaeth Gŵyl Cymru yn un unigryw ac arbennig, gydag ymrwymiad i rymuso a dathlu cymunedau Cymru yn ganolog iddi. Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau yn dod ag angerdd ein cenedl am bêl-droed a’r celfyddydau ynghyd ag arddangos doniau creadigol eithriadol. Eleni byddwn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ym mhob cornel o Gymru gyda canu, sgyrsiau – a llawer o hwyl!”