Mae cronfa Atsain ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau newydd, ac yn cau am 5pm ddydd Llun 29 Ionawr 2024. 

Mae Atsain yn ariannu prosiectau ar gyfer pobl ifanc 0 – 25 oed sy'n ymwneud â cherddoriaeth sy'n wynebu rhwystrau oherwydd amgylchiadau bywyd, materion daearyddol, hunaniaeth neu gefndir. Mae'n cael ei redeg gan Anthem Music Fund Wales gyda buddsoddiad gan Youth Music, diolch i chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Mae grantiau hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau sy'n para hyd at flwyddyn. I wneud cais, i gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer ein gweminar ariannu ar 18 Ionawr, ewch i'n gwefan.