• 26 - 28 Hydref 2023
  • Yn fyw ac Ar-lein o Orllewin Cymru
  • Dros 90+ o berfformiadau dros y penwythnos
  • Bandiau arddwrn £25 yn unig am tridiau o gerddoriaeth, trafodaeth a syniadau

Mae Lleisiau Eraill Aberteifi, ar ôl cyhoeddi’n gynharach eleni y bydd yn dychwelyd i Orllewin Cymru, wedi datgelu’r don gyntaf o berfformwyr byw anhygoel a fydd yn ymddangos ar lwyfannau’r ŵyl o 26 -28 Hydref.

Mae Sans Soucis yr act pop-amgen o’r Eidal, Susan O’Neill y gantores-gyfansoddwraig o Iwerddon, Adwaith y rocwyr clodfawr o Gymru a Cerys Hafana y delynores deires o Fachynlleth, i gyd wedi’u cyhoeddi fel y cyntaf o’r prif actau eleni.

Byddant i gyd yn perfformio setiau byw cartrefol yn Eglwys y Santes Fair yn Aberteifi, Gorllewin Cymru, a chaiff mwy o brif artistiaid eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Gyda Huw Stephens y darlledwr profiadol o Gymru yn cyflwyno, bydd Lleisiau Eraill Aberteifi yn chwalu pellter byd-eang, gan ddod â’r holl brif berfformiadau yn fyw i’r byd yn rhad ac am ddim trwy YouTube ynghyd â ffrydio’n fyw i sgrin sinema yn y Mwldan. Caiff cynnwys unigryw o'r penwythnos ei gipio i'w ddarlledu'n ddiweddarach ar S4C ac RTÉ.

Yn ychwanegol i berfformiadau’r Eglwys, bydd tref brydferth Aberteifi yn gartref i Lwybr Cerdd mewn 11 o leoliadau dros dridiau’r ŵyl, gan arddangos y gorau oll ymhlith talent gerddorol sefydledig a newydd o Iwerddon a Chymru. Mewn cymysgedd eclectig ac amrywiol o fwy na 35 o artistiaid, gall mynychwyr yr ŵyl fwynhau taith o ddarganfod gerddorol sy’n dathlu hip-hop, gwerin, roc, electronica, RnB, pync, grime, soul a phopeth yn y canol, gan adlewyrchu bywiogrwydd cyffrous allbwn cerddorol y ddwy genedl.

 
Gyda mwy o artistiaid eto i'w cyhoeddi, bydd y Llwybr Cerdd yn cynnwys:

amy michelle | Angharad | Climbing Trees | Chalk | Dead Method | Fia Moon | Gwilym Bowen Rhys | HMS Morris | Joshua Burnside | Lemoncello | Les SalAmandas | Mace The Great | Mali Hâf | MELLT | Minas | Mount Palomar | Samana | Scustin | Seba Safe | Tara Bandito | Uly 

Yn ogystal â’r rhaglen o gerddoriaeth fyw, mae band arddwrn gŵyl Lleisiau Eraill yn cynnwys mynediad anghyfyngedig i Clebran - Llanw a Thrai, lle bydd rhai o leisiau mwyaf grymus Cymru ac Iwerddon yn dod at ei gilydd ar gyfer cyfres o drafodaethau a straeon personol a bywiog, yn ogystal â rhai perfformiadau arbennig iawn. Bydd y grŵp craff a hynod ddiddorol hwn o feddylwyr, awduron, haneswyr, cerddorion, ieithyddion, eiriolwyr a llunwyr polisi yn trafod diwylliant, pŵer, cynrychiolaeth, y dyfodol a llawer mwy, gan gipio ein dychymyg ar yr un pryd.

A hithau’n cael ei chynnal yn y Mwldan yng nghanol Aberteifi, bydd rhaglen Clebran eleni yn ystyried heriau heb eu tebyg ein hoes, ond hefyd y posibiliadau, y cyfleoedd a’r atebion. Bydd y trafodaethau hyn yn ystyried y lleol a’r byd-eang, y cyrion a’r canol, y gymuned a’r gymdeithas ehangach, a sut y gall mudiadau bychain greu newid mawr.

Mae Clebran eleni yn cynnwys casgliad o siaradwyr anhygoel; Yr awdur a’r darlledwr Jon Gower, y delynores Cerys Hafana, yr Athro Cysylltiol mewn Hanes Modern Cynnar John Gallagher; yr awdur, cyfansoddwr a’r perfformiwr Daf James; yr awdur-gyfarwyddwr Tracy Spottiswoode; yr awdur, podlediwr a’r newyddiadurwr Damian Kerlin; y newyddiadurwr a’r awdur Richard Fisher, yr Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Gymhwysol Dr Sharon Lambert a'r hanesydd, awdur a’r adolygydd Christopher Kissane, gyda mwy i'w cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Cynhelir Clebran ar brynhawn/nos Iau, Gwener a Sadwrn yn ystod yr ŵyl dridiau.

Mae bandiau arddwrn pris cynnar ar werth nawr am £25, gan godi i £35 ar 1af Hydref. Bydd bandiau arddwrn yn rhoi mynediad anghyfyngedig i holl ddigwyddiadau’r Llwybr Cerdd a sesiynau Clebran ar draws y tridiau a chewch eich cynnwys mewn raffl i ennill bandiau arddwrn mynediad y mae galw mawr amdanynt i’r perfformiadau byw yn Eglwys y Santes Fair. Ni fydd tocynnau ar gyfer perfformiadau ecsgliwsif yr Eglwys ar werth a byddant ar gael yn unig drwy gystadlaethau a gwobrau. Dilynwch @othervoiceslive a @theatrmwldan ar y cyfryngau cymdeithasol am gyfleoedd i ennill tocynnau.

Mae manylion llawn am fandiau arddwrn yr ŵyl a ffrydio ar gael yn othervoices.ie

Dyfyniad gan Philip King, Sylfaenydd, Lleisiau Eraill:

“Mae’n bleser gennym ddod â Lleisiau Eraill yn ôl i’n cartref oddi cartref yn hyfrydwch Aberteifi fis Hydref eleni. Lleisiau Eraill Aberteifi a Clebran yw penllanw’r cydweithio a’r bartneriaeth gyda’n cymdogion agosaf. Mae’n berthynas ac yn ymgysylltiad creadigol sy’n parhau i ddyfnhau a chryfhau.

Dan nawdd y Datganiad ar y Cyd gan Lywodraethau Iwerddon a Chymru, rydym yn parhau i adeiladu pont ddiwylliannol rhwng ein dwy wlad hynod ac unigryw. Mae gan y berthynas hon fel y dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn Aberteifi y llynedd ‘ddiwylliant wrth ei enaid’. Ymunwch â ni yn Aberteifi ddiwedd mis Hydref, pan fydd y gerddoriaeth yn fendigedig a’r sgwrs yn bryfoclyd ac yn frwd.”

Dyfyniad gan Dilwyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol y Mwldan:

“Rydym wrth ein bodd y bydd Lleisiau Eraill yn dychwelyd i Aberteifi yn 2023, a hefyd yn 2024 a 2025, diolch i gefnogaeth hael Llywodraethau Cymru ac Iwerddon. Wrth i ni ddathlu’r cysylltiadau agos rhwng Cymru ac Iwerddon ac yn fwy penodol Aberteifi a Dingle, cartref gwreiddiol Other Voices yn Iwerddon, mae’n beth hynod gyffrous cael rhannu gyda chynulleidfaoedd rhestr fywiog ac amrywiol o dalent gerddorol anhygoel ar draws sbectrwm eang o genres o’r ddwy wlad. Rydym hefyd yn dathlu pwysigrwydd Aberteifi fel man lle mae celf, diwylliant, iaith, creadigrwydd, syniadau, amgylchedd a gweithredu yn cyfuno i wneud ein cymuned yn ased gwerthfawr i ni gyd."

Llwyfannir Lleisiau Eraill Aberteifi gyda chefnogaeth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau.

Cynhyrchir y digwyddiad gan South Wind Blows mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl. Bydd Triongl yn ffilmio’r digwyddiad er mwyn ei ddarlledu nes ymlaen ar S4C ac RTÉ.

____

DIWEDD/

Ar gyfer ymholiadau’r wasg yn y DU, cysylltwch â Tamsin Davies tamsin@mwldan.co.uk / 01239 623925

Ar gyfer ymholiadau’r wasg yn Iwerddon, cysylltwch ag Alannah McGhee digital@southwindblows.ie / +353-85-716-2184

 

Lluniau cymeradwy Actau Eglwys y Santes Fair ar gyfer y wasg:

https://www.dropbox.com/scl/fo/nv1pdxuun2oz1rzw2xfq2/h?rlkey=274hsc8ipx0e99hisvoptg2au&dl=0

 

Lluniau cymeradwy Actau’r Llwybr Cerdd ar gyfer y wasg:

https://www.dropbox.com/scl/fo/k9opxfjooyuhr6fohwqua/h?rlkey=oxghz3bxy01yxx3hnw88hdfur&dl=0

 

Lluniau cymeradwy cyffredinol Lleisiau Eraill Aberteifi ar gyfer y wasg:

https://www.dropbox.com/scl/fo/gcf1fx0x35nftoesej7yg/h?rlkey=lgby8b0o2t9eotm9d9elxir1e&dl=0

Cychwynnodd Other Voices fel digwyddiad cerddorol untro mewn eglwys fechan yn Dingle, pentref pysgota bychan yng ngorllewin Iwerddon a dros yr 22 mlynedd diwethaf mae’r syniad wedi tyfu. Bellach, mae Other Voices yn ddigwyddiad sefydlog yn y calendr cerddorol – digwyddiad sy’n ‘rhaid ei fynychu’ i berfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Mae Other Voices wedi arwain at greu cyfres deledu gerddorol ryngwladol, ac wedi hynny fe ddatblygodd ffilmio’r gyfres honno yn ŵyl gerdd, a digwyddiad twristiaeth annibynnol sy’n dathlu’r lleol ar raddfa fyd-eang. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Other Voices wedi teithio i Lundain, Belfast, Efrog Newydd, Austin, Texas a Berlin.

 

Uchafbwyntiau Other Voices:

Uchafbwyntiau Lleisiau Eraill Aberteifi 2023: https://www.youtube.com/watch?v=EVJAOQ1RqfQ

Amy Winehouse: https://www.youtube.com/watch?v=a1xFsoRYrds

Hozier: https://www.youtube.com/watch?v=0_oGM2o2y0Y

Sam Fender: https://www.youtube.com/watch?v=bCrwhejbCxo

Fontaines D.C: https://www.youtube.com/watch?v=OigDCDM5_Qc 

The Murder Capital: https://www.youtube.com/watch?v=r19CdbbYQMk 

Sigrid: https://www.youtube.com/watch?v=m9jwHvfgMjE

Young Fathers: https://www.youtube.com/watch?v=C01pXeWoGFk 

www.othervoices.ie

@othervoiceslive

 

Mwldan

Mae’r Mwldan yn Ganolfan Celfyddydau a sinema annibynnol a leolir yn Aberteifi. Mae'r ganolfan yn cyflwyno rhaglen fyw aml-gelfyddyd ac yn dangos tua 3000 o ffilmiau a darllediadau byw yn flynyddol. Mae’r Mwldan yn lleoliad cynhyrchu o bwys, sy’n gyfrifol am gydweithrediadau rhyngwladol fel Catrin Finch a Seckou Keita, ac mae hefyd yn cynhyrchu Digwyddiadau Haf Castell Aberteifi mewn partneriaeth â Chastell Aberteifi. Yn 2017, cychwynnodd y Mwldan y label recordio bendigedig mewn partneriaeth â chynyrchiadau cerddorol ARC, gan weithredu model 360 gradd o reoli artistiaid, cynrychioli, cynhyrchu, rhyddhau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Mae gan y sefydliad, sy’n elusen a menter gymdeithasol gofrestredig nid-er-elw, drosiant blynyddol o £1.7 miliwn (cyn Covid) ac mae'n cyflogi tîm o 19 aelod staff.

www.mwldan.co.uk  | @TheatrMwldan

 

Triongl

Cwmni cynhyrchu teledu a ffilm yw Triongl a sefydlwyd yn 2017 gan Nora Ostler ac Alec Spiteri gyda Gethin Scourfield yn ymuno yn 2018. Mae'r tri yn gynhyrchwyr profiadol gyda hanes o gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel, gwobrwyedig. Byddant yn dogfennu ‘Other Voices/Lleisiau Eraill’ ar gyfer rhaglen arbennig awr o hyd i’w darlledu nes ymlaen ar S4C ac RTÉ.

www.triongl.cymru | @triongl_tv