Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Phontypridd, mae’r sefydliadau celf cymunedol Citrus Arts (Trehopcyn), People Speak Up (Llanelli), Tanio (Betws, Pen-y-bont ar Ogwr), YMa (Pontypridd) a’r platfform digidol celfyddydol AM yn cyhoeddi heddiw, camau cyntaf y daith o ffurfio rhwydwaith celf cymunedol. Bydd y rhwydwaith yn archwilio sut y mae rhannu dysgu, rhannu adnoddau, a rhannu egwyddorion, yn gallu atgyfnerthu sefydliadau cymunedol celfyddydol a sefydliadau cysylltiedig yng Nghymru.

Yn dilyn canlyniad Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru llynedd, dechreuodd y pum partner Rhwydwaith drafod am sut y gallent gydweithio. Wedi’u cysylltu gan bedwar gofod ffisegol ac un gofod digidol, mae’r pump wedi ymweld â’i gilydd dros y misoedd diwethaf, gan dreulio amser yn dysgu am waith ei gilydd. Dros sawl paned, trafodwyd y gwerthoedd sydd ganddyn nhw’n gyffredin, eu pryderon a sut i ffynnu mewn amseroedd heriol. Arweiniodd hyn at y sylweddoliad y gall rhwydwaith lleol, cefnogol, di-gystadleuaeth, gryfhau a newid sefydliadau a chymunedau; a dyma lle mae’r daith yn dechrau.

Bydd y rhwydwaith nawr yn cyfarfod yn rheolaidd i archwilio amrywiaeth o gyfleoedd a heriau, wedi’u harwain gan egwyddorion allweddol:

  • Arddangos gwerth celfyddydau cymunedol
  • Creu gofod ar gyfer cydweithio, rhannu a chymorth cynghreiriaid
  • Archwilio ffyrdd newydd o weithio, yn galluogi i gymunedau a chyfranwyr ddod at ei gilydd i greu
  • Dogfennu, hyrwyddo ac ymgysylltu yn ddigidol
  • Sicrhau gweithrediad mewn modd sydd ddim yn echdynnu, fydd yn sefydlu perthnasau teg, ac yn helpu i ddygymod â heriau adnoddau ac ariannu.

Bydd y daith yn cael ei dogfennu fel bod y dysgu yn cael ei rannu gydag eraill, gan arwain efallai at rwydweithiau lleol cyffelyb mewn rhannau eraill o Gymru.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y pum aelod, yn ogystal â’u rhaglenni digwyddiadau dros yr haf, isod:

https://cy.citrusarts.co.uk/

https://peoplespeakup.co.uk/

https://www.ymaonline.wales/cy

https://taniocymru.com/cy/

https://amam.cymru/