Ers sefydlu Unlimited yn 2013, rydym wedi dosbarthu dros £6.5 miliwn o gyllid i 521 artist anabl, amrywiol. Ac, yn dilyn penderfyniadau anodd, mae’n bleser gennym gyhoeddi’r artistiaid a’r cwmnïau sydd wedi cyrraedd ein rhestrau byrion ar gyfer ein Gwobrau Partneriaid y DU a Rhyngwladol, sef prif rownd gomisiynu artistig flynyddol Unlimited.
Mae artistiaid ein rhestrau byrion – a ddetholwyd gan ein panel dan arweiniad pobl anabl – bellach yn mynd ymlaen ar eu siwrnai tuag at ddiogelu’r cyllid i wireddu eu gweledigaeth. Dros y misoedd nesaf, byddant yn rhoi rhagor o fanylion i ni ynglŷn â’u prosiectau, a byddwn yn cyhoeddi’r detholiad terfynol ym mis Mawrth 2025.
Rydym yn dweud ‘penderfyniadau anodd’ oherwydd eleni fe dderbyniom nifer enfawr o geisiadau – cyfanswm o 288 o geisiadau cymwys – gyda 15% yn cael eu dethol ar gyfer y rownd derfynol. Rydym yn diolch i bawb ar y panel am eu gwaith gofalus ac ystyriol. Gallwch ddarganfod mwy am ein panel yma.
Ac wrth gwrs rydym yn diolch i Arts Council England, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r a’r Loteri Genedlaethol drwy Creative Scotland, sy’n cefnogi Gwobrau Partneriaid y DU, a British Council, am gefnogi Gwobrau Partneriaid Rhyngwladol.
Rydym hefyd yn diolch i’n partneriaid: Bradford 2025 UK City of Culture a City of Bradford Metropolitan District Council, Imaginate, Liverpool Biennial, Norfolk and Norwich Festival, Rhaglen Ddiwylliannol Prifysgol Rhydychen, Southbank Centre, Celfyddydau Span Arts, Summerhall Arts, Tŷ Pawb a Wellcome Collection. Ac rydym yn ddiolchgar i Sadler’s Wells am eu hyblygrwydd eleni, sy’n ein galluogi ni i droi’r wobr £60,000 tuag at gomisiwn strategol.
Mae’r ceisiadau yn dangos mor greadigol, arloesol ac uchelgeisiol mae artistiaid anabl. Ymhlith y prosiectau dethol mae gosodwaith golau awyr agored ar gyfer comisiwn Bradford 2025, sy’n ail-ddychmygu mannau cyhoeddus; darn theatr gerdd ar gyfer plant dall a rhannol ddall, ar gyfer comisiwn Imaginate; a pherfformiad ymdrochol sy’n edrych ar Derfysgoedd Beca, gyda Chelfyddydau Span.
Mae yna hefyd barêd beiciau o bypedau addasol dychmygol, prosiect sy’n plethu ieithoedd arwyddion a cherddoriaeth reggae, ac actorion anabl yn dadansoddi ffilmiau megis My Left Foot a Scent of a Woman er mwyn herio canfyddiadau ac annog newid cymdeithasol. Mae hefyd berfformiad cydweithredol ffuglen wyddonol ‘geri-drag’ sy’n archwilio gofal pobl hŷn cwiar, cywaith aml-synhwyraidd a ysbrydolwyd gan dirwedd a mytholeg Cymru, a darn theatr gerdd ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc dall a rhannol ddall, ymhlith dwsinau o syniadau gwych eraill.
Felly, gofynnwn yn garedig i chi fynd i’r dolenni isod er mwyn darganfod yr holl artistiaid a chwmnïau ar restrau byrion ein Gwobrau Partneriaid y DU a Rhyngwladol.