Mae’r rhaglen lawn wedi ei chyhoeddi ar gyfer Gŵyl NAWR 2023 yn Abertawe ar ddydd Sadwrn yr 11eg o Dachwedd.

Mae’r ŵyl eleni yn digwydd ar draws dau lawr yng nghanolfan Tŷ Tawe yng nghanol y ddinas, a bydd yn cynnwys setiau gan artistiaid o Gymru sy’n creu cerddoriaeth amgen, arbrofol mewn nifer o feysydd gwahanol. Bydd Pat Morgan o Datblygu yn gorffen y noson ar y prif lwyfan lan stâr, tra bydd y canwr-cyfansoddwr gwerin amgen Elsbeth Anne yn cloi’r llwyfan lawr stâr. Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys nifer o artistiaid sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu gwaith mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous.

Mae’r lein-yp llawn yn cynnwys: Y Pregethwr / Lifting Gear Engineer / Alaw Rhys / Sachasky / Sara Evelyn / R.Seiliog / Radio Free Ponty / Ani Glass / Elspeth Anne / Pat Morgan

Cyn i’r gerddoriaeth ddechrau bydd yna hefyd rhaglen o ffilmiau wedi ei churadu gan dîm NAWR, gan gynnwys “Put Blood In The Music”, rhaglen ddogfen Charles Atlas am Sonic Youth a’r sîn cerddoriaeth yn Efrog Newydd, “The Magic Sun” gan Phill Niblock ac yn cynnwys Sun Ra & His Solar Arkestra, a “Tresor” gan Gwenno.

Mae’r ŵyl yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau ar y cyd rhwng NAWR a Menter Iaith Abertawe.

Mae NAWR yn gyfres o gyngherddau amlddisgyblaeth yn Abertawe a'r Gelli Gandryll sy’n cynnwys cerddoriaeth arbrofol, byrfyfyr rhydd, ffilm, lo-fi, jazz rhydd, celf sain, cerddoriaeth werin, a cherddoriaeth newydd. Nod gwaith NAWR yw cynnig lle agored a myfyriol i gynulleidfa brofi cerddoriaeth newydd mewn lleoliad croesawgar ac agos. Mae gwaith Menter Iaith Abertawe yn cynnwys creu cyfleoedd i bobl o bob oedran fwynhau a defnyddio’r Gymraeg yn yr ardal.

Mae tocynnau i’r diwrnod dim ond £8 o flaen llaw ac ar gael i archebu fan hyn: www.ticketsource.co.uk/menter-iaith-abertawe