Heddiw mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cyhoeddi’r don gyntaf o artistiaid ar gyfer Llais 2023, ei gŵyl gelfyddydau ryngwladol flaenllaw a fydd yn dychwelyd i Gaerdydd rhwng 11 a 15 Hydref gyda llwyth o actau lleol a rhyngwladol ar gyfer y pumed ŵyl flynyddol.

Unwaith eto bydd Llais 2023 yn llenwi gofodau Canolfan Mileniwm Cymru gyda rhaglen eclectig sydd wedi’i hysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu pob un ohonom ni – y llais.

Ddydd Gwener 13 Hydref bydd Llais 2023 yn cyflwyno Both Sides Now: Celebrating Joni Mitchell – teyrnged i’r perfformiwr eiconig gyda lein-yp anhygoel o gantorion benywaidd gan gynnwys yr eicon a enwebwyd am y wobr Mercury Gwenno, yr aml-offerynnwr ESKA, y seren o Gaerdydd Charlotte Church a’r gantores Brydeinig Laura Mvula. Bydd y pedair yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn y perfformiad cerddorfaol cyntaf yn y byd o Both Sides Now.

Ar ben hynny, bydd Bat for Lashes hefyd yn ymddangos yn Llais, gan berfformio caneuon eiconig o’i phum albwm a arweiniodd at ei thri enwebiad am y wobr Mercury.

Yn perfformio hefyd fydd y cerddor o Gymru a chyd-guradur yr ŵyl Gwenno, a enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am ei halbwm o 2014 Y Dydd Olaf, ac y cyrhaeddodd ei halbwm diweddaraf Tresor (2022) y rhestr fer ar gyfer y wobr Mercury. Bydd ei pherfformiad ôl-weithredol yn cynnwys datganiadau o’i holl albymau llwyddiannus.

Bydd The Unthanks hefyd yn cynnal digwyddiad drwy’r dydd arbennig gan gynnwys cyngherddau, digwyddiadau cyfranogol a pherfformiadau o’u halbymau llwyddiannus The Bairns, Here’s The Tender Coming a Last.

Dywedodd Gwenno, artist a chyd-guradur yr ŵyl: “Mae wedi bod yn bleser mawr curadu Llais eleni. Dwi’n falch o fod o Gaerdydd ac roedd hynny bob amser yng nghefn fy meddwl i wrth feddwl am berfformwyr ac artistiaid i ymuno â ni. Mae Caerdydd yn llawn tapestri cyfoethog o ddiwylliannau ac ieithoedd sy’n gwneud y ddinas yn unigryw ac yn rhan o’r byd, ac, yn enwedig y Dociau lle mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i lleoli, sy’n diffinio cymaint o’n hunaniaeth fel pobl o’r ddinas yma, ac roeddwn i’n anelu at ddathlu hyn.

“Fy nehongliad personol i o’r “llais” yw fy mod i’n ei ddiffinio fel cyfrannu at y sgwrs yn y ffordd fwyaf radical â phosibl, ym mha bynnag ffordd sydd orau i’r person sydd â rhywbeth i’w ddweud. Pan dwi’n meddwl am artistiaid sydd wedi fy ysbrydoli i, maen nhw wedi bod yn feddylwyr radical sy’n troi pob carreg i ddatgelu rhywbeth newydd i ni am ein hunain. Dwi’n gobeithio y bydd Llais eleni yn ysbrydoli sgyrsiau parhaus ac yn fwy na dim, yn bleser llwyr i bawb sy’n dod.”

Bydd James Yorkston a Nina Persson, prif gantores The Cardigans hefyd yn ymddangos yn Neuadd Hoddinott i berfformio caneuon o’u halbwm The Great White Sea Eagle, a gafodd ei gynhyrchu ochr yn ochr â The Second Hand Orchestra ac sydd wedi ennill llawer o gefnogaeth.

Yn ymddangos Ddydd Sadwrn 14 Hydref bydd y gantores fado o Bortiwgal a’r eicon byd-eang Mariza, sydd wedi hudo cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’i chanu nodedig, ei phresenoldeb llwyfan carismatig a’i chymysgedd pwerus o ganeuon traddodiadol a chyfoes. Bydd y trwmpedwr o Gymru Tomos Williams hefyd yn perfformio ei ail ddangosiad o Riot! yn Llais. Gyda’r cerddorion adnabyddus Soweto Kinch ac Orphy Robinson, ochr yn ochr â’r gantores o Gymru Eädyth Crawford ac adran rhythm o’r radd flaenaf sy’n cynnwys Aidan Thorne a Mark O’Connor, bydd y perfformiad ymdrochol o Riot! yn cynnwys elfennau o jazz, hip-hop, cerddoriaeth werin o Gymru a’r avant-garde, gydag effeithiau gweledol gan Simon Proffitt.

Mae actau eraill ar y dydd Sadwrn yn cynnwys pŵer folcanig Qawwali Flamenco a fydd yn uno telynegiaeth hypnotig flamenco a lleisiau qawwali o Bacistan i Andalucia gyda Faiz Ali Faiz a Chicuelo. Bydd yr aml-offerynnwr a’r cyfansoddwr caneuon Angeline Morrison hefyd yn perfformio caneuon gwerin traddodiadol gan archwilio profiad pobl Ddu Brydeinig y mae’r byd gwerin wedi’i esgeuluso yn aml.

Mae lein-yp gŵyl 2023 hefyd yn cynnwys perfformiad gan The Staves, triawd gwerin indie o Loegr sy’n chwiorydd sydd â phedwar albwm stiwdio gan gynnwys eu trydydd albwm llwyddiannus Good Woman. Gallwch chi ddisgwyl set gofiadwy yn llawn harmonïau ysgafn a nefolaidd ochr yn ochr â geiriau pryfoclyd.

Bydd hefyd dangosiad byw o ffilm arswydus arfordirol gythryblus Mark Jenkin, Enys Men. Mae’r ffilm yn stori arswyd werin ryfeddol, sydd wedi’i ffilmio ar 16mm. Caiff ei pherfformio gan Jenkin ei hun a Dion Star, o dan faner eu prosiect cerddoriaeth cydweithredol The Cornish Sound Unit, sy’n chwarae darnau byrfyfyr ac wedi'u cyfansoddi gan ddefnyddio peiriannau tâp, synths analog, adborth a recordiadau maes.

Rhwng 25 Medi a 5 Tachwedd bydd dangosiadau rheolaidd o Battlescar: Punk Was Invented By Girls yn rhedeg yn Bocs yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd y ffilm realiti rhithwir (VR) am dyfu i fyny sydd wedi’i hadrodd gan Rosario Dawson yn cludo’r gwylwyr i Efrog Newydd yn y 1970au i fyd pync dau berson yn eu harddegau sydd ar ffo. Bydd arddangosfa gysylltiedig yn dathlu’r byd pync yng Nghymru yn rhedeg ochr yn ochr â’r dangosiadau.

Bydd hefyd amserlen lawn o weithdai a digwyddiadau rhad ac am ddim ym mhob cornel o Ganolfan Mileniwm Cymru, gyda manylion pellach i’w cyhoeddi yn y misoedd sydd i ddod.

Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: “Mae ffasâd yr adeilad yma yn arddangos y geiriau Saesneg ‘In These Stones Horizons Sing’. Bydd lleisiau yn canu ym mhob gofod y mis Hydref yma gyda lein-yp pwerus, eclectig ac amrywiol o Gaerdydd, Cymru a’r byd. Mae wedi bod yn wefr gweithio gyda Gwenno i greu’r rhaglen, artist â theimlad dwfn o ba mor gyfoethog gall gŵyl sy’n dathlu’r llais fod yn y rhan yma o ddinas ei geni. Mae gennym lawer mwy i’w ychwanegu at y lein-yp yn fuan ac allwn ni ddim aros i ddatgelu mwy.”

Yn newydd eleni, bydd Llais yn lansio tocynnau ‘Talwch Beth y Gallwch’ lle y gall pobl wneud cais am ddau ddigwyddiad o’u dewis a thalu beth y gallan nhw ar sail y cyntaf i’r felin, gan atgyfnerthu’r ffaith y dylai’r celfyddydau fod yn hygyrch i bawb.*

Mae tocynnau Llais nawr ar werth yn www.wmc.org.uk/cy/llais.