Mae Unlimited yn cynnig deg gwobr, gwerth cyfanswm o £413,000, i artistiaid anabl ledled Lloegr, yr Alban, a Chymru. Bellach ar agor i geisiadau.
Gydag ystod o symiau o £15,000 i £80,000, bydd y gwobrau comisiynu hyn yn cefnogi creu gwaith newydd eithriadol mewn ffurfiau ar gelfyddyd sy’n cynnwys theatr, dawns, cerddoriaeth, celfyddyd weledol, llenyddiaeth, a chelfyddydau cyfunol.
Rydym yma i gefnogi gweledigaethau creadigol beiddgar artistiaid anabl - p'un ai a ydynt yn hedyn syniad neu rywbeth sy'n barod i’w gynhyrchu, byddwn yn helpu i ddod â’r weledigaeth yn fyw.
Cat Sheridan, Uwch Gynhyrchydd, Unlimited: "Ar adeg pan mae artistiaid anabl, yn enwedig y rhai sy'n cael eu hymyleiddio mewn sawl ffordd, yn wynebu rhwystrau a phwysau cynyddol, mae'r Gwobrau Agored yn weithred hanfodol o herio creadigol. Mae'r gwobrau hyn yn ymwneud â dweud ie i risg, ie i raddfa, ie i’r pwysig ac ie i'r llawen. Rydym yma i gefnogi syniadau sy'n ymestyn ac yn gwthio ffurf ac yn ail-ddychmygu’r hyn sy'n bosib. Rydym yn gwneud yn siŵr bod celfyddyd bwerus, sy'n gwthio ffiniau gan artistiaid anabl yn mynd allan i'r byd."
Nid ariannu syniadau prosiect artistiaid yn unig yw ein nod. Rydym wedi ymrwymo i ysgogi newid ar draws sector y celfyddydau. Mae hynny'n golygu ailfeddwl y math o waith sy'n cael ei gefnogi, ei werthfawrogi a'i lwyfannu. Mae Gwobrau Agored dan £25,000 yn ddelfrydol ar gyfer profi, archwilio a chwarae gyda syniadau cynnar. Mae Gwobrau dros £25,000 yn gyfle i roi’r darn hwnnw sydd bron a’i gwblhau o flaen cynulleidfaoedd. Perffaith ar gyfer artistiaid sydd wedi cael rhywfaint o gyllid ond nad ydynt wedi gallu cael y gwaith ger bron cynulleidfa eto
Gwnaed yn bosibl gyda chefnogaeth Arts Council England, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Creative Scotland.
Pete Massey, Cyfarwyddwr, Swydd Efrog, Arts Council England: "Rydym wrth ein bodd yn gweld Unlimited yn lansio rownd arall o Wobrau Agored, gan roi cyfle i artistiaid anabl a chwmnïau dan arweiniad pobl anabl wneud gwaith eithriadol, ar gyfer cynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol. Yng Nghyngor y Celfyddydau rydym am sicrhau bod pobl o bob cefndir yn gallu cymryd rhan, profi a chreu celf a diwylliant o ansawdd uchel. Mae Gwobrau Agored Unlimited yn gwneud hynny’n union."
Amanda Loosemore, Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae comisiynau Unlimited yn hanfodol i godi proffil artistiaid anabl a thaflu goleuni ar yr ystod o waith cyffrous sy’n cael ei greu ledled y DU. Rydym wrth ein bodd yn parhau i fod yn rhan o hyn yma yng Nghymru. Dros nifer o flynyddoedd mae ein hymrwymiad i'r rhaglen wedi cael effaith gadarnhaol ar artistiaid anabl yng Nghymru, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer cefnogaeth a datblygiad creadigol drwy ystod o bartneriaethau. Mae'n gwbl addas bod cynulleidfaoedd yn cael y cyfle i brofi'r gwaith rhyfeddol a grëwyd gan yr artistiaid a gomisiynwyd, artistiaid sy'n hyrwyddo newid ac yn herio sector y celfyddydau."
Kim Simpson, Pennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Creative Scotland: "Mae rhaglen gomisiynu Unlimited yn parhau i ddathlu a dyrchafu talent a chreadigrwydd eithriadol artistiaid anabl ledled y DU, gan gynnig llwyfan hanfodol sy'n gyrru newid go iawn, parhaol yn y sector diwylliannol. Mae'n nid yn unig yn agor llwybrau i yrfaoedd artistig ffyniannus ond hefyd yn gosod meincnod pwerus ar gyfer sut y gall y diwydiant chwalu rhwystrau ac arwain ar hygyrchedd."
Mae Unlimited yn comisiynu gwaith anhygoel gan artistiaid anabl sy'n wrthryfelgar, anturus, ysbrydoledig, a chwareus. Rydym yn credu ym mhŵer artistiaid anabl i newid a herio'r byd. Mae comisiynau blaenorol wedi amrywio'n fawr ar draws ffurfiau ar gelfyddyd a graddfa – gweler y cyfan yn ein cronfa ddata o gomisiynau. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld pa greadigaethau arloesol, uchelgeisiol fydd yn dod yn fyw eleni.
Darganfyddwch fwy am ein Gwobrau Agored ac ymgeisiwch nawr. Dyddiad cau: Dydd Llun 29 Medi 2025, am ganol dydd.