Mae Yr Egin yn falch iawn i gyhoeddi pwy yw’r tri comediwr fydd yn teithio Cymru am un wythnos yn unig ar ddechrau mis Mawrth fel rhan o brosiect Talent Mewn Tafarn. Yn dilyn galwad agored y tri a ddewisiwyd i fynd yn yr Hileri-bws a gwibio a gigio o’r gogledd i’r de o’r 4 - 8 Mawrth fydd Caryl Burke, Steffan Evans a Josh Pennar.

Efallai i chi weld Steffan Evans ar daith rownd Cymru o’r blaen yn cefnogi Elis James, y tro yma fydd â rôl MC ar gyfer rhan fwya’r nosweithi ac yn ôl Steffan mae’n -

‘Edrych ymlaen i fynd am daith rownd y wlad gyda comediwyr da a neis. Yr unig minibus fi wedi bod arno yn diweddar yw rail replacement buses o Gaerfyrddin i Glunderwen. Fydd hwn yn llawer mwy o sbort. 

Fi’n awyddus i neud i bobl o wahanol llefydd o Gymru chwerthin ar storiau bywyd fi. Fi eisiau chi werthin.. plis!’

Mae Caryl Burke wedi bod yn teithio ledled Prydain yn diddanu a magu profiad fel stand yp, dywedodd am y cyfle i fynd ar yr Hileri-bws  -

  "Dim ond un gig Cymraeg oeddwn i wedi 'neud cyn gig Talent Mewn Tafarn yn y Fic yn Llifthaen (nôl yn Mawrth 2023) felly mae'r cyfle i gael gwneud 5 gig Cymraeg, ledled Cymru yn gyffrous dros ben. Mi fydd o hefyd yn gyfle gwerthfawr iawn i drio deunydd newydd a chael dysgu rhywfaint o tips gan ddau gomediwr (Steffan a Josh) lot fwy profiadol na fi! Rili edrych ymlaen i wario wythnos yn chwerthin hefo'r criw talentog!"

Nid yw Josh Pennar yn ofni ymdrin â phynciau mawr y dydd o ddyfodol y Gymraeg i sut i agor pecynnau o sbageti, mae'n edrych ymlaen i'r gwibdaith a chreu cynnwys newydd bob dydd ar gyfer y gymuned leol fel rhan o'r her.

Mi fydd yr Hileri-bws yn ymweld â 5 lle a tocynnau pob nos yn codi arian at fudiad neu weithgaredd lleol felly ewch ati i brynu tocyn a chael noson o chwerthin yng nghwmni Caryl, Steffan, Josh a ffrindiau fydd yn ymuno gyda nhw ar ambell noson. 

Manylion y daith: 

Llun, 4 Mawrth, 7.30pm  - Theatr Fach Llangefni

Tocynnau  : https://www.tickettailor.com/events/theatrfachllangefni/1158424#

Mawrth, 5 Mawrth, 7.30pm - Neuadd Bentref Llanystumdwy 

Tocynnau : Tafarn Y Plu, Llanystumdwy 01766 549789  

Mercher, 6 Mawrth, 7.30pm - Wynnstay, Machynlleth

Tocynnau : Y Wynnstay, Machynlleth 01654 702941 

Iau, 7 Mawrth, 7.30pm, Clwb Rygbi Caerffili 

Tocynnau : mentercaerffili.cymru/event/talent_mewn_tafarn-_noson_gomedi_cymraeg/40

Gwener, 8 Mawrth, 7.30pm - Lion, Treorci

Tocynnau : https://made-with-love-and-cor.sumupstore.com/product/noson-comedi