Ar ôl galwad agored am geisiadau, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r artistiaid fydd yn rhan o gyfnod preswyl Gwreiddioli, sef cam cyntaf Prosiect 40°C – prosiect newydd hirdymor sy’n ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd cyfnod preswyl Gwreiddioli yn digwydd o 28 – 31 Awst 2023 yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth.

Yr artistiaid yw: Leo Drayton, Richard Huw Morgan, Steffan Phillips, clare e potter a Talulah Thomas. Dan arweiniad yr artist arweiniol Dylan Huw, bydd y 5 artist amlddisgyblaethol yma yn treulio cyfnod o 4 diwrnod yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen i wrando, herio, cyd-ddychmygu a datblygu syniadau creadigol. Dyma gyfle trawsnewidiol i’r grŵp fod yn uchelgeisiol am bosibiliadau eu gwaith, i wthio ffiniau theatr ac i herio rhagdybieithau cyffredin am yr argyfwng hinsawdd.

Fel rhan o gyfnod preswyl Gwreiddioli, bydd y 5 artist yn cymryd rhan mewn sesiynau sydd wedi’u harwain gan artistiaid ac arbenigwyr gwadd o feysydd amrywiol, sef: Eddie Ladd, Marva Jackson Lord a Becca Voelcker. Byddan nhw hefyd yn gweithio gyda Fin Jordão o Ganolfan y Dechnoleg Amgen ac yn mwynhau amser gyda Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, a Joe Roberts, Prif Gynghorydd Arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae cyfnod preswyl Gwreiddioli yn gychwyn ar Brosiect 40°C yn ymateb i'r foment dyngedfennol y llynedd pan y mesurwyd y tymheredd uchaf erioed yn y DU gan y Swyddfa Tywydd. Bwriad y prosiect 4 mlynedd ac amlhaenog hwn yw i ddarganfod ffyrdd creadigol a gwahanol i herio’r hen ffyrdd o ymateb i drychinebau byd natur ac i archwilio sut gall cyfrwng theatr byw ehangu ein dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd fel rhan annatod o fywyd yng Nghymru heddiw.

Meddai’r artist arweiniol Dylan Huw:

“Dwi methu aros i weld pa syniadau a thensiynau cynhyrchiol wneith godi o ymgynnull y pum artist a'r ysgogwyr yng nghyd-destun unigryw CAT ddiwedd y mis. Maen nhw'n amrywiol dros ben o ran eu cefndiroedd gyrfaol, eu safbwyntiau artistig a'u ffyrdd o weithio, ond maen nhw'n rhannu chwilfrydedd penagored am yr her o geisio cynhyrchu celfyddyd mewn cyfnod o argyfwng byd-eang, o ongl Gymreig a Chymraeg. Mae'r broses o ddechrau dod i'w hadnabod - trwy eu ceisiadau a thrwy sgyrsiau'n arwain fyny at y cyfnod preswyl - wedi fy ysbrydoli, fy herio a fy addysgu yn barod, a dwi'n gyffrous tu hwnt i weld sut ôl-fywydau bydd i'n hamser gyda'n gilydd.”

Mae Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn edrych ymlaen at gael yr artistiaid arbennig yma ynghyd yn ystod y cyfnod preswyl. Meddai Steffan:

“Ry’n ni mor falch o groesawu clare, Leo, Richard, Steffan a Talulah fel artistiaid cyntaf Prosiect 40°C. Dyma’r tro cyntaf i ni fel cwmni lansio prosiect fel hyn sy’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd ac sy’n greiddiol i’n hymrwyiad i weithredu yn wyrdd. Mae gan y prosiect arbennig hwn botensial cyffrous i herio a newid ein ffordd o weithio, sbarduno syniadau a dangos sut y gall theatr Gymraeg ymateb i’r trychineb amgylcheddol. Dwi’n edrych ‘mlaen yn arw at ymuno â’r criw, clywed am eu profiadau a dysgu ganddyn nhw.”

Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch Prosiect 40°C a’r cyfnod preswyl Gwreiddioli ar wefan y cwmni.