Mae Ballet Cymru yn falch iawn o gadarnhau y bydd Tonia yn ymgymryd â’r rôl newydd sbon hon i’r cwmni o 27 Tachwedd 2023 ymlaen, gan eirioli dros ddawnswyr anabl a chynhwysiant ym maes dawns.

Dechreuodd Tonia ddawnsio pan oedd yn ddwyflwydd oed a phrofodd amrywiaeth o arddulliau dawnsio, gan gynnwys ballet, cyn i’w hanabledd ddatblygu pan oedd yn 14 oed.

Er gwaethaf cyflyrau meddygol acíwt a oedd yn aml yn peryglu ei bywyd, addysgodd Tonia ei hun i symud eto, gan herio disgwyliadau i ail-ymuno â byd dawns.

Ymunodd Tonia â Rhaglen Cymdeithion Ballet Cymru 2021-22 ac yna aeth ymlaen i gwblhau’r Rhaglen Gyn-broffesiynol yn 2022, ac mae bellach yn parhau â’i datblygiad fel dawnsiwr, coreograffydd ac addysgwr gyda Ballet Cymru yn y rôl newydd hon.

“Pan ymunais â Ballet Cymru am y tro cyntaf cefais fy nghroesawu a’m cynnwys, a chefais fy ysbrydoli gan Ballet Cymru i helpu eraill gyda sefyllfaoedd tebyg. Trwy gefnogaeth barhaus Ballet Cymru, gallaf ddangos y gall pobl ag anableddau hefyd ddawnsio a symud ymlaen ym myd proffesiynol ballet.”

Tonia, Asiant dros Newid: Dawns yn Ballet Cymru

Mae Tonia wedi perfformio’n broffesiynol ar lwyfan, wedi coreograffu nifer o ddarnau o waith, wedi arwain gweithdai mewn ysgolion ac yn y gymuned, ac ar hyn o bryd mae'n cynnal sesiynau wythnosol ar gyfer Ballet Cymru 3, grŵp ieuenctid cynhwysol newydd y cwmni.

‘Rydym wrth ein bodd mai Tonia fydd ein Hasiant dros Newid: Dawns. Mae eisoes wedi cynhyrchu gwaith rhagorol trwy ei phenderfyniad a’i hangerdd tuag at ddawns, ac ni allwn aros i weld Tonia yn rhagori yn ei rôl newydd!”

Amy Doughty, Cyfarwyddwr Artistig, Ymgysylltu a Hyfforddiant, Ballet Cymru

Cyfleoedd i Ehangu Mynediad ac Ymgysylltu ym maes Ballet a Dawns

Mae Tonia yn chwilio am ffyrdd a chyfleoedd i ehangu mynediad ac ymgysylltu ym maes ballet a dawns, ac i weithio gyda chymunedau i estyn allan i bobl anabl sydd â'r potensial i ddawnsio. Bydd Tonia yn mynd â pherfformiadau i'r gymuned i ddangos y posibiliadau o ran cynnwys pobl mewn dawns.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Tonia, Asiant dros Newid: Dawns trwy anfon neges e-bost at tonia@welshballet.co.uk neu ffoniwch 01633 892927.

Dangosiad ecsgliwsif o 'Stigma,' sef ffilm gan Tonia, yn Nigwyddiad Codi Arian Nadoligaidd Ballet Cymru ddydd Sul 3 Rhagfyr 2023

Comisiynwyd Tonia gan Ballet Cymru i greu Stigma, ffilm ddawns fer a fydd yn cael ei dangos ar Lwyfan Digidol Ballet Cymru, a ysgrifennwyd, coreograffwyd a pherfformiwyd gan Tonia. Mae’n anfon neges gref am gynhwysiant ac unigedd, a’r teimladau y gallwn eu profi mewn bywyd, ond mewn ffyrdd gwahanol.

Mae'n bleser gennym lansio rhagflas ecsgliwsif o ffilm Tonia yn Nigwyddiad Codi Arian Nadoligaidd Ballet Cymru ddydd Sul 3 Rhagfyr 2023. Dewch i wylio’r ffilm a mwynhau perfformiadau byw gan ddawnswyr y cwmni a dawnswyr cyn-boffesiynol yn y stiwdio ddawns fawr, lle bydd danteithion Nadoligaidd yn cael eu cynnig i'r gwesteion.

Bydd yr holl elw o'r digwyddiad yn mynd tuag at raglen ddawns gynhwysol flaenllaw Ballet Cymru 3.

Cadwch eich lle yma yn RHAD AC AM DDIM: DIGWYDDIAD CODI ARIAN NADOLIGAIDD BALLET CYMRU