Ydych chi’n ymgynghorydd neu’n weithiwr llawrydd sy’n gweithio ym maes marchnata, datblygu cynulleidfaoedd neu ymchwil cynulleidfa yn y sector diwylliannol?

Gall ein hamrywiaeth arloesol o wasanaethau data eich helpu i ddarparu’r cyngor a’r gwasanaeth gorau posibl yn seiliedig ar dystiolaeth i’ch cleientiaid; boed hynny’n golygu dylunio strategaethau datblygu cynulleidfaoedd, cefnogi ceisiadau am gyllid neu optimeiddio tactegau marchnata.

Ymunwch â ni i gael golwg gyffredinol, sy’n rhad ac am ddim ac ar-lein, ar sut gallwn ni helpu - lle byddwn ni’n rhoi sylw i’r canlynol:

  • Y datblygiadau diweddaraf i lwyfan Audience Answers (Audience Finder gynt).
  • Mae ein hadroddiadau pwrpasol ar Broffiliau Poblogaeth, sydd bellach wedi cael eu diweddaru gyda data Cyfrifiad 2021, yn rhoi cipolwg allweddol ar ddemograffeg dalgylch eich cleient.
  • Defnyddio Audience Spectrum i gael y ddealltwriaeth orau o gynulleidfaoedd presennol a darpar gynulleidfaoedd; ar gyfer sefydliad o unrhyw faint neu fath.
  • Sut gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein hymchwil i dueddiadau ehangach yn y sector diwylliannol.

Dyddiad: Dydd Iau, 16 Tachwedd 1:30 PM - 3:00 PM

Archebwch eich lle: Archebwch eich lle am ddim – Cyflwyno Nwyddau a Gwasanaethau TAA i Asiantaethau, Gweithwyr Llawrydd ac Ymgynghorwyr – Zoom, Dydd Iau 16 Tachwedd 2023 1:30 PM - 3:00 PM (tickettailor.com)

Pwy:

Addas ar gyfer ymgynghorwyr neu weithwyr llawrydd sy’n gweithio ym maes marchnata, datblygu cynulleidfaoedd neu ymchwil cynulleidfa yn y sector diwylliannol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu:

Beth yw ein hamrywiaeth o wasanaethau data a sut y gallant eich helpu i ddarparu’r cyngor a’r gwasanaeth gorau posibl yn seiliedig ar dystiolaeth i’ch cleientiaid.

Hwylusydd:

Megan Tripp, Rheolwr Cymunedol a Gwasanaeth

Fformat:

Mae’r sesiwn hon ar ffurf seminar 90 munud, gydag amrywiaeth o arddangosiadau ymarferol ac astudiaethau achos.

Cost: Am ddim