Bydd Ble Mae’r Dail yn Hedfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae Ble Mae’r Dail yn Hedfan yn un o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus Arad Goch. Creuwyd y ddrama yn wreiddiol gan Gyfarwyddwr Artistig Arad Goch Jeremy Turner yn 2012 gyda’r actorion Ffion Wyn Bowen a Gethin Evans.
Eleni cafodd fersiwn newydd o’r cynhyrchiad ei ddatblygu a’i deithio, y tro hwn yn cynnwys elfennau o BSL hefyd. Un o’r cast gwreiddiol, Ffion Wyn Bowen, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol y cwmni, sydd wedi cyfarwyddo fersiwn diweddaraf o’r ddrama, a chafwyd ymateb hyfryd i’r cynhyrchiad pan oedd ar daith ddechrau’r flwyddyn.
Mi fydd yna gyfle eleni i weld y cynhyrchiad unwaith eto – fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd.
“Profiad theatrig cerddorol, doniol, rhythmig a chreadigol yw Ble Mae’r Dail yn Hedfan sy’n defnyddio gwrthrychau naturiol ein hamgylchedd i ddeffro’r synhwyrau ac agor dychymyg plentyn i greu, adeiladu, chwarae, archwilio a chyfathrebu. Cynhyrchiad rhyngweithiol i blant a’u teuluoedd gydag ychydig iawn o iaith felly’n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd. Ni’n edrych ymlaen yn fawr i’w pherfformio eto ar faes yr Eisteddfod ym Moduan.” – Ffion Wyn Bowen
Dyma gyfle arbennig i blant Cymru weld y fersiwn newydd hyn o’r cynhyrchiad gyda’r teulu i gyd! Bydd Ble Mae’r Dail yn Hedfan yn cael ei berfformio yn y Pentre Plant ar yr 8fed a 9fed, manylion llawn isod.
Am, fwy o wybodaeth, e-bostiwch post@aradgoch.org neu ffoniwch 01970 617998.
Ble Mae’r Dail yn Hedfan, Eisteddfod 2023
8/8/23, Perfformiadau 11:30 & 14:30. Gweithdy Drama Arad Goch am 16:00.
9/8/23, perfformiadau 11:30 & 14:30. Gweithdy Drama Arad Goch am 16:00
Y cyfan yn y Cwtsh, Pentref Plant.