Mae Jones y Ddawns wedi cyhoeddi y bydd dawnswyr ifanc yn y prosiectau Quiet Beats (yng Nghaerdydd) a Jones Bach (yn y Drenewydd) yn gweithio gyda dawnswyr amlwg o Awstralia ac o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn ystod hanner tymor Mai y flwyddyn hon ar gyfer pobl ifanc (7 i 16 oed). Mae’r ddau brosiect yn rhan o’u Cwmni Ifanc, sy’n cael eu rhedeg gan ddau o Artistiaid Dawns y cwmni, Amber Howells ac Eli Williams. 

Mae Quiet Beats yn cyflwyno profiadau dawns trawsnewidiol i bobl ifanc f/Fyddar rhwng 7 ac 16 oed, nad ydynt efallai wedi gallu profi dawns a symud oherwydd rhwystrau a wynebir yn aml mewn lleoliadau dosbarthiadau dawns traddodiadol. Bydd Quiet Beats yn cael ei redeg yn stiwdio Rubicon Dance yng Nghaerdydd.

“Dwi wrth fy modd ei fod yn dewis dawnsio ac yn ei fwynhau. Ei fod yn lleol i ni ac y gall gael y cyfle i fod gyda phobl Fyddar eraill a’i drwytho mewn BSL.” - rhiant i aelod o’r Cwmni Ifanc.

Mae Jones Bach yn rhoi profiadau dawns creadigol i bobl ifanc yng Ngogledd Powys nad ydynt yn aml yn cael mynediad at ddawns gyfoes. Mae’r cwmni am greu cyfleoedd i bobl ifanc ragori a pheidio â chael eu dal yn ôl o fod yn byw mewn ardal wledig yng Nghymru.

“Mae Jones Bach yn rhoi’r rhyddid i mi fod yn fi fy hun...rwyf wedi dysgu sgiliau a thechnegau newydd ac rwyf wedi dod i adnabod ffrindiau mor dda.” - un sy’n cymryd rhan yn Jones Bach.

Dywed y cwmni ei fod am roi profiadau a chyfleoedd dawns proffesiynol o safon uchel i bobl ifanc na fyddai fel arfer yn cael mynediad at ddawns oherwydd rhwystrau fel bod yn f/Fyddar neu yn byw mewn ardal fwy gwledig o Gymru. Bydd y ddau grŵp yn cael eu cyflwyno i arddulliau a dulliau dawns gwahanol gydag arlliw creadigol, dan arweiniad dawnsiwr proffesiynol gwahanol bob dydd trwy’r wythnos. Mae’r dawnswyr gwadd yn cynnwys y ddawnswraig F/fyddar Anna Seymore sydd ar hyn o bryd yn gweithio gyda Candoco a Jayden Reid ac yn ddiweddar bu’n gweithio gyda Jones y Ddawns ar eu cynhyrchiad o Y Dewis. 

“Mae arnom eisiau creu cyfleoedd i bobl ifanc f/Fyddar a rhai o’r bobl fwyaf ynysig mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru i fod yn ddawnswyr yfory os ydyn nhw’n dymuno. Byddwn yn cefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial a chael yr hyder anferth y gellir ei gyflawni trwy gyfleoedd dawns- mewn amgylchedd cefnogol, creadigol a hwyliog,” y Cyfarwyddwr Artistig, Gwyn Emberton.

Bydd Quiet Beats yn rhedeg yn Rubicon Dance yng Nghaerdydd o ddydd Mercher 29 Mai i ddydd Gwener 31 Mai a bydd Jones Bach yn rhedeg yn Fit4life yn y Drenewydd o ddydd Mawrth 28 Mai i ddydd Gwener 31 Mai. Mae croeso i unrhyw un 7-16 oed ymuno ag unrhyw lefel o sgil i roi cynnig arni. Hoffai’r cwmni i bawb ddod a rhoi cynnig arni ac mae’n sicrhau pobl nad oes raid iddynt aros os nad yw’n addas iddyn nhw - er eu bod yn meddwl y gall danio gwreichionyn a fydd yn aros hefo nhw ar hyd eu hoes.

Mae prosiectau Quiet Beats a Jones Bach yn rhan o Gwmni Ifanc Jones y Ddawns a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r cynhyrchydd Kama Roberts ar info_and_admin@jonesthedance.com