Mae cyfansoddwr cân a greoedd hanes yn seremoni coroni’r Brenin Charles yn dilyn yn ôl traed ei arwr oes i gymryd awenau gŵyl gerddoriaeth fyd-enwog.
Mae Paul Mealor, a gafodd ei eni yn Llanelwy a’i fagu yng Nghei Connah, wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Artistig newydd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a sefydlwyd gan ei fentor, yr Athro William Mathias.
Fe fydd yn cymryd yr awenau oddi wrth y mezzo soprano nodedig, Ann Atkinson, sy’n rhoi’r gorau i’r swydd ar ôl 20 mlynedd lwyddiannus wrth y llyw.
Un o uchelgeisiau mawr Paul yw i'r ŵyl ddod yn ganolbwynt aml-gelfyddydol gyda pherfformiadau ar yr 'ymylon' ochr yn ochr â'r prif gyngherddau.
Roedd William Mathias, a fu’n Athro Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, yn eicon diwylliannol Cymreig a ddechreuodd ganu’r piano yn dair oed a chyfansoddi cerddoriaeth yn bump oed, gan ddod yn gyfansoddwr o weithiau corawl ac opera o fri.
Sefydlodd yr ŵyl yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn 1972 a’i chyfarwyddo hyd ei farwolaeth, yn 57 oed, yn 1992. Cymaint oedd ei gariad at yr ŵyl fel ei fod wedi’i gladdu ym mynwent yr eglwys gadeiriol.
Fel myfyriwr astudiodd Paul gyda William Mathias ac mae’n ei ddyfynnu fel y person a ysbrydolodd ei yrfa ym myd cerddoriaeth ac yn arbennig ei gariad at gyfansoddiadau corawl ar raddfa fawr.
Meddai: “Canais yng Nghôr y Gadeirlan yn blentyn ac rwyf wedi mynychu’r ŵyl ers fy nawfed penblwydd yn 1984. Felly, bydd y flwyddyn nesaf yn nodi cyswllt 40 mlynedd fel perfformiwr, aelod o’r gynulleidfa, cyfansoddwr ac yn ddiweddarach fel Is-Lywydd yr Ŵyl.”
Mae'n dweud ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar i hyrwyddo gweledigaeth ei fentor, ar ôl ei efelychu eisoes wrth gyfansoddi cerddoriaeth i'r teulu brenhinol.
Ysgrifennodd William Mathias yr anthem yn enwog, Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw, ar gyfer priodas frenhinol Tywysog a Thywysoges Cymru yn 1981, a oedd â chynulleidfa deledu o biliwn o bobl ledled y byd.
Genhedlaeth yn ddiweddarach daeth Paul enwogrwydd rhyngwladol yn 2011, pan glywodd 2.5 biliwn o bobl - y gynulleidfa fwyaf yn hanes darlledu - ei Motet, Ubi caritas yn cael ei berfformio gan gorau Abaty Westminster a Chapel Brenhinol Ei Mawrhydi, yn y Seremoni Priodas Frenhinol y Tywysog William a Catherine Middleton yn Abaty Westminster.
Ym mis Mai eleni perfformiwyd ei gân, Coronation Kyrie, gan y seren opera Syr Bryn Terfel adeg coroni’r Brenin Charles, gan wneud hanes fel y gân Gymraeg gyntaf erioed mewn seremoni coroni brenhinol.
Dywedodd Paul: “Fel cyfansoddwr fy hun, rydw i wir yn deall sut a pham y sefydlodd William Mathias yr ŵyl a beth oedd yn ei olygu iddo ef fel y mae i mi.
“Mae’n arwr cerddorol go iawn i mi ac fe wnaeth gymaint dros gerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth yng ngogledd Cymru. Roedd ei ddeallusrwydd a'i ymdeimlad o lawenydd gyda, ac o fewn, cerddoriaeth yn wych ac roedd ganddo hefyd bersonoliaeth arbennig sy'n disgleirio yn ei gyfansoddiadau.
“Pan oeddwn i’n tyfu i fyny, yr ŵyl oedd yr unig le y gallech chi glywed cerddorion clasurol o safon fyd-eang. Dyna oedd y lle cyntaf i mi erioed glywed cerddorfa broffesiynol yn fyw. Ac mae’n dal i fod yn un o’r ychydig leoedd yng ngogledd Cymru lle gallwch chi glywed cerddorfa broffesiynol yn y cnawd, fel petai.
“Roedd yn wir yn ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngyrfa gerddorol fy hun ac rwy’n gobeithio yn y dyfodol y gall helpu yn yr un modd i ysbrydoli cerddorion ifanc eraill yn lleol ac ymhellach i ffwrdd.”
Er bod ei yrfa wedi mynd ag ef i ffwrdd o ogledd Cymru, ni chollodd Paul ei gysylltiadau â’r ŵyl ac yn 2013 cafodd ef a merch William, Rhiannon Mathias, eu penodi’n Is-lywyddion.
Ychwanegodd: “Rwy’n awyddus i ymestyn cyrhaeddiad yr ŵyl i gynnwys pobl nad ydynt erioed wedi bod o’r blaen neu efallai nad oeddent wedi meddwl fod yr ŵyl ar eu cyfer nhw.
“Rwy'n gobeithio creu 'cyrion gŵyl’ sy'n denu'r goreuon ym myd canu pop a gwerin Cymreig a chomedi hefyd. Yn ogystal ag archwilio’r goreuon o ran perfformio a chreu cerddoriaeth glasurol, rydym hefyd am weld beth mae ffurfiau celfyddydol eraill yn ei gynnig i gerddoriaeth a’r cyflwr dynol.
“Byddwn wrth fy modd yn gweld digwyddiad aml-gelfyddydol yn dod â dawns, peintio, cerflunwaith, dylunio sain, mathemateg, ffiseg a cherddoriaeth ynghyd i weithio gyda’i gilydd mewn undod gan fynegi amrywiaethau niferus yr 21ain ganrif. Mae geni gymaint o syniadau!!”
Talodd Paul deyrnged hefyd i’w ragflaenydd, Ann Atkinson, gan ddweud: “Mae Ann yn berson anhygoel ac wedi gwneud cymaint dros gerddoriaeth a’r celfyddydau yng ngogledd Cymru, ond yr hyn rydw i eisiau ei ddweud yn benodol yw hyn - yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr anhygoel i’r ŵyl, mae hi’n gantores ac yn arweinydd o safon fyd-eang ac, yn bwysicach efallai, yn berson gwirioneddol hyfryd.
“Rwyf eisoes wedi cyfarfod â hi nifer o weithiau wrth i ni ‘ groesi drosodd’ ac mae hi wedi bod yn wych yn ei chyngor a’i chynhesrwydd.”
Yn ôl Ann, mae hi wrth ei bodd bod Paul yn cymryd yr awenau oddi wrthi.
Meddai: “Gan wybod am ei angerdd personol dwfn dros yr ŵyl, ei gyfeillgarwch hir â’i sylfaenydd, William Mathias, ei wreiddiau ei hun yng ngogledd Cymru a’i gyfoeth o wybodaeth am gerddoriaeth yn ei holl ffurfiau, rwy’n gwybod bod dyfodol yr ŵyl boblogaidd hon mewn dwylo diogel.
Talodd Cadeirydd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, y Tra Barchedig Nigel Williams, Deon y Gadeirlan, deyrnged i ‘gyfraniad aruthrol’ Ann , a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weld yr ŵyl yn ffynnu hyd yn oed ymhellach o dan arweiniad artistig Paul.
Meddai: “Rwy’n llongyfarch Paul yn fawr iawn ac rwy’n gwybod bod ganddo hoffter mawr o’r ŵyl. Rwy’n gyffrous i glywed am ei gynlluniau a gweld sut y bydd yn esblygu yn y dyfodol.”
Roedd Is-Gadeirydd yr Alun Jones, a arweiniodd y broses recriwtio, wrth ei fodd ag ansawdd yr ymgeiswyr ar gyfer y swydd a dewis Paul yn y pen draw.
Meddai: “Does dim dwywaith y bydd ei gysylltiad hir â'r ŵyl, a'i wybodaeth bersonol o'i hanes, yn gymorth mawr iddo. Mae’n ymwybodol iawn o’r gwaith gwych sydd eisoes wedi’i wneud a’r heriau i’w hwynebu wrth iddo fynd â’r digwyddiad gwych hwn yn ei flaen.”