Mae rheoli prosiect yn allweddol i helpu busnesau llwyddiannus i gyflawni eu hamcanion. Bydd y cwrs hwn yn rhoi trosolwg o reoli prosiectau gan ganolbwyntio ar beth yw prosiect, y rolau sy’n gysylltiedig â chyflawni prosiectau ynghyd â’r hanfodion megis cynllunio, rheoli risg a dibyniaeth.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno gan dîm Prosiect Hawliadau yn Admiral Insurance sydd â phrofiad o gyflawni gwahanol fathau o brosiectau busnes strategol ar gyfer sefydliad mawr.