Mae’r coreograffydd ymladd, KEV McCURDY wedi gweithio ar blockbusters Hollywood, cyfresi Netflix a sioeau poblogaidd y West End fel Stranger Things. Yr hydref hwn, fe fydd yn cyfarwyddo’n broffesiynol am y tro cyntaf wrth iddo gyfarwyddo drama sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth am gyflawniadau bocsiwr Cymreig.
Bydd THE FIGHT, a gynhyrchir gan Theatr na nÓg, yn chwarae i dros 5000 o blant ysgol yn Theatr Dylan Thomas yn Abertawe a Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu o fis Medi i fis Tachwedd 2024.
Mae The Fight yn adrodd stori wir Cuthbert Taylor, pencampwr bocsio o dreftadaeth gymysg a aned ym Merthyr Tudful ym 1909, a gafodd ei wahardd rhag ymladd am deitl Prydeinig oherwydd lliw ei groen.
Mae McCurdy yn ddewis priodol i gyfarwyddo drama o'r enw The Fight. Mae wedi gweithio fel cyfarwyddwr ymladd ers bron i 30 mlynedd, yn hyfforddi actorion mewn ymladd llwyfan ac yn coreograffu golygfeydd symud ar gyfer ffilmiau fel John Carter gan Disney, cyfresi teledu fel Doctor Who, Torchwood a Hinterland, a nifer o gynyrchiadau llwyfan, yn fwyaf diweddar y fersiwn theatraidd o Stranger Things (“Dyw hi ddim jyst yn sioe,” mae’n chwerthin, “Mae’n ddigwyddiad!”). Dyma ei dro cyntaf yn gweithio mewn rôl cyfarwyddo gyda chwmni proffesiynol, yn hytrach na chyfarwyddwr ymladd.
Prif gymeriad The Fight yw Cuthbert Taylor, arloeswr ym myd bocsio’r 1920au a’r 1930au. Ym 1928, ef oedd y bocsiwr du cyntaf i gynrychioli Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd. Fodd bynnag roedd y sefydliad ehangach yn ofni pa neges y gallai ymladdwr Du yn trechu gwrthwynebydd gwyn ei hanfon, felly gwaharddodd Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain (BBBofC) bocswyr nad oeddent yn wyn rhag cystadlu am y teitl Prydeinig, gan ddweud bod Taylor “ddim yn ddigon gwyn i fod yn Brydeinig” ar y pryd. Roedd y ‘rheol bar lliw’ a oedd ar waith rhwng 1911 a 1948 yn nodi bod yn rhaid i focswyr gael dau riant gwyn. Er ei fod yn bencampwr pwysau bantam Cymru, ni fyddai Taylor byth yn cael y cyfle i gael ei gydnabod fel y gorau ym Mhrydain.
Cafodd y cyfarwyddwr Kev McCurdy ei syfrdanu a’i dristáu gan y stori a chyn lleied o bobl oedd wedi clywed am stori Taylor: “Mae’n rhaid i ni gael hyn allan yna, i roi gwybod i bobl am ei stori.” Parhaodd Kev: “Mae rhan enfawr o hanes Du Prydeinig wedi cael ei ysgubo o dan y carped am amser hir, a nawr yw’r amser i genhedlaeth newydd ddysgu am gamgymeriadau’r gorffennol a gobeithio unioni’r camweddau hynny.” Mae rhai tebygrwydd rhwng gyrfaoedd Kev McCurdy a Cuthbert Taylor, gan mai McCurdy oedd y person du cyntaf yn y DU i ddysgu ymladd llwyfan ym 1992 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac yna’r person o liw gyntaf i ddod yn gyfarwyddwr ymladd cofrestredig.
Mae teulu Cuthbert Taylor wedi gweithio’n agos gyda Theatr na nÓg ers sawl blwyddyn ar gynhyrchiad The Fight, gan ddod â mewnwelediad amhrisiadwy i fywyd ac etifeddiaeth eu taid gyda nhw. Eglurodd ŵyr Cuthbert Taylor, Alun Taylor: “Gwrthodwyd hawliau dynol sylfaenol i’n taid Cuthbert Taylor, oherwydd lliw ei groen. Bron i ganrif yn ddiweddarach, mae Theatr na nÓg yn rhoi llais iddo, ac wrth wneud hynny maen nhw’n rhoi llais i’n teulu ni hefyd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn bod stori Cuthbert Taylor yn cael ei hadrodd o’r diwedd, gan ganiatáu i gannoedd o blant ysgol weld cymeriad a dawn bocsio anhygoel ein taid, wedi’i gyfosod ag anghyfiawnderau llym ein byd.”
Mae teulu Cuthbert Taylor wedi cysylltu â Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain am ymddiheuriad am y bar lliw a’i gwrthododd i ymladd am y teitl Prydeinig, nid ydynt wedi derbyn dim yn ôl ganddynt, ond maent bellach yn gobeithio y gallai The Fight helpu eu hymdrechion wrth geisio cael cyfiawnder.
Mae The Fight yn addas ar gyfer plant 9+ oed ac mae perfformiadau ar gyfer ysgolion yn Abertawe eisoes yn llawn gyda rhestr aros. Mae yna dal argaeledd ar gyfer perfformiadau ysgolion yn Theatr Brycheiniog. Mae perfformiad cyhoeddus ar 26 Medi 2024 yn Abertawe gydag argaeledd cyfyngedig.