Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn falch o gyhoeddi’r addasiad llwyfan o Sgleinio’r Lleuad, sef y llyfr poblogaidd gan Caryl Lewis a Valériane Leblond. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn teithio theatrau ledled Cymru rhwng Mai a Gorffennaf 2025, ac yn cynnig profiad theatrau hudolus i blant 3-8 oed a’u teuluoedd, yn ogystal â siaradwyr Cymraeg newydd.
Mae’r stori yn dilyn Byrti a Bwbw, dau gymeriad annwyl sy’n sgleinio’r lleuad pob dydd. Ond ar ôl i Pwnîc ddweud wrthynt am beidio â gwneud hynny, daw’r byd i gyd yn dywyll. Yna, mae rhywbeth hudolus yn digwydd. Mae’r stori galonogol hon wedi ei throsi i’r llwyfan gan Caryl Lewis ei hun, sy’n gyfrifol am ysgrifennu’r llyfr gwreiddiol mewn cydweithrediad gyda’r dylunydd Valériane Leblond. Dywedai Caryl; “Dwi wedi cael modd i fyw wrth addasu Sgleinio’r Lleuad ar gyfer y llwyfan. Mae hi wedi bod yn freuddwyd i mi i ddod a Byrti a Bwbw a’u byd hudolus i theatrau a dwi wrth fy modd cael gwneud hynny yng nghwmni Arad Goch. Mae hi’n stori annwyl am harddwch y byd sy’n cyffwrdd ag amryw o themau yn cynnwys cadwraeth, diolchgarwch a chyfeillgarwch. Fydd na hwyl a sbri a chaneuon di-ri! Dwi’n edrych ymlaen i’ch gweld chi yno!” Mae’r dylunydd Valériane Leblond hefyd wedi mynegi ei chyffro am y cynhyrchiad: “Mae’n hollol hudolus feddwl bod y cymeriadau a’r byd rwy wedi creu ar gyfer Sgleinio’r Lleuad yn mynd i fod yn fyw ar y llwyfan. Mae’n rhywbeth prin iawn i ddweud, ond i fi mae fel breuddwyd wedi dod yn wir, a rwy’n methu aros i weld sut bydd Arad Goch a Mei Gwynedd yn dehongli geiriau Caryl a lluniau fi!”
Bydd y cynhyrchiad yn cynnwys caneuon gwreiddiol gan y cerddor Cymraeg poblogaidd Mei Gwynedd. Meddai Mei; “Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i gyd weithio gyda tîm Arad Goch ar y cynhyrchiad yma. Dwi'n hoffi neges y stori, a mae digon o ganeuon bachog yno i'r plant bach, a mawr, gael cyd-ganu!”. Dan gyfarwyddiaeth Ffion Wyn Bowen, sef Cyfarwyddwr Artistig newydd Cwmni Theatr Arad Goch, bydd Sgleinio’r Lleuad yn cyflwyno profiad gweledol a chofiadwy i gynulleidfaoedd o bob oedran.
Bydd y cast dawnus a cherddorol yn cynnwys Huw Ferguson, Mari Fflur ac Ioan Gwyn, a fydd yn dod â’r stori hudolus hon i fywyd ar y llwyfan. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio yn y Gymraeg, gan wneud hyn yn gyfle gwych i siaradwyr Cymraeg newydd i fwynhau theatr Gymraeg.
Bydd Sgleinio’r Lleuad yn teithio i’r theatrau canlynol:
- Theatr Felinfach – 20/05
- Mwldan – 22/05
- Pontio – 02/06, 03/06
- Galeri – 04/06, 05/06
- Y Sherman – 06/06, 07/06
- Pafiliwn Theatr Rhyl – 10/06
- Y Stiwt – 12/06
- Y Lyric – 16/06, 17/06
- Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth – 18/06
- The Riverfront– 19/06
- Canolfan Gartholwg – 20/06
- Canolfan Celfyddydau Taliesin – 23/06
- Hafren – 24/06
- Neuadd Dwyfor – 26/06, 27/06
- Theatr Borough – 30/06
- Y Muni – 02/07
- Memo Arts – 03/07
Bydd tocynnau ar gyfer Sgleinio’r Lleuad ar gael i’w prynu trwy wefannau’r theatrau, heblaw am Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, lle byddwch angen cysylltu â Chwmni Theatr Arad Goch i arbechu’ch tocynnau. Peidiwch â cholli’r cyfle i weld y sioe hudolus hon, sy’n cyfuno stori hyfryd gyda gwaith theatrig hardd, yn weledol ac yn gerddorol.