Mae’r cwmni theatr Grand Ambition wedi uno ag elusennau Cerebra, Anabledd Dysgu Cymru, Canolfan Gofalwyr Abertawe a Fforwm Rhieni Gofalwyr Abertawe i lwyfannu drama gyda neges bwerus. Mae MumFighter yn archwilio’r rhwystrau a wynebir gan fam i blentyn anabl, yn brwydro am y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyrraedd eu potensial. Mae’n ddrama deimladwy, gyffrous a phwysig am wytnwch, gobaith, a chael y maen i'r wal. 

Mae’n stori a oedd yn hynod o berthnasol i'r elusen Cerebra o Gaerfyrddin, gyda'i chenhadaeth i gefnogi teuluoedd gyda phlant â chyflyrau niwrolegol, megis Parlys yr Ymennydd, er mwyn iddynt allu ceisio goresgyn yr heriau a darganfod bywyd gwell gyda’i gilydd.

Mae Isabel Shapiro, Ymddiriedolwr a rhiant Cerebra, yn egluro pam fod y ddrama mor bwerus a pham y bydd yn taro deuddeg gyda chymaint o deuluoedd: “Mae  dwy ochr i fywyd fel rhiant-gofalwr ac mae'n dipyn o her. Mae'r profiad dyddiol o ofalu am blentyn 

anabl yn llawn cariad a llawenydd. Ond gellir profi ynysiad ac anobaith hefyd - a brwydrau dyddiol dros y gofal sydd ei angen ar eich plentyn ac er lles y teulu cyfan hefyd. Anaml iawn y gwelir yr hwyl a'r heriau yn fyw mor bwerus ar y llwyfan. Drwy roi’r fath sylw i brofiadau rhieni-ofalwyr, mae Mumfighter yn dod â gobaith trwy undod, ac yn ysgogi unrhyw un sy’n ddigon ffodus i weld y ddrama i fynnu newid”.

Mae Beverley Hitchcock, Pennaeth Ymchwil a Gwybodaeth yn Cerebra, yn esbonio sut y daeth y bartneriaeth at ei gilydd:

“Mae MumFighter yn stori sy’n agos at galon Cerebra. Bob dydd rydym yn clywed gan deuluoedd sy’n cael anawsterau i sicrhau mynediad at y gwasanaethau y mae ganddynt yr hawl i'w defnyddio. Gall yr heriau fod yn llethol ac mae gweld y brwydrau y mae teuluoedd ledled y wlad yn eu hwynebu o ddydd i ddydd yn cael eu portreadu yn MumFighter yn bwerus iawn. Trwy ein gwaith rydym yn rhoi cymorth i deuluoedd unigol, ond hefyd yn anelu at chwalu rhwystrau, newid polisïau a gweithredu newidiadau a fydd o fudd i'r gymdeithas gyfan. Ar ôl i ni fod yn rhan o gyfnod Ymchwil a Datblygu’r ddrama yma'r llynedd, roedd yn amlwg i ni fod yn rhaid i ni fod yn rhan o'r broses o sicrhau llwyfaniad y cynhyrchiad pwysig yma i gynulleidfa ehangach”.

Mae’r ddrama wedi’i gwreiddio mewn profiad byw go iawn a oedd yn atseinio gyda’r tîm cyfan – o’r awdur, y cyfarwyddwr a’r tîm cynhyrchu i’r teuluoedd a gymerodd ran mewn ymchwil ar gyfer y stori.

Mae dramodydd clodwiw MumFighter, Tracy Harris, sy’n wreiddiol o Abertawe, yn awdur, yn wneuthurwr theatr ac yn wneuthurwr ffilmiau arobryn. Mae gan y cyfarwyddwr Richard Mylan gysylltiad hir sefydlog â Cerebra ac mae’n esbonio:

“Mae Mumfighter wedi’i gwreiddio ym mhrofiad bywyd yr awdur Tracy Harris o fagu plentyn â Pharlys yr Ymennydd ac fe’i hysgrifennwyd yn dilyn ymchwil ac ymgynghoriad â rhieni eraill ar draws De Cymru. Mae’n archwilio’r rhwystrau a wynebir gan fam plentyn anabl, yn brwydro am y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyrraedd eu potensial. Fel rhiant i blentyn awtistig fy hun, mae’n brofiad personol iawn i mi ein bod yn rhannu’r stori yma yn fy milltir sgwâr." 

Buodd yr actores a Llysgennad Cerebra Cara Readle yn rhan o’r prosiect o’r cychwyn cyntaf, ac wedyn ymunodd â’r cynhyrchiad fel Cyfarwyddwr Cyswllt, rôl sydd wedi rhoi'r cyfle iddi ddatblygu ei sgiliau cyfarwyddo wrth ochr y Cyfarwyddwr Mylan a hefyd y cyfarwyddwr cynorthwyol Dena Davies.

“Roeddwn i’n rhan o’r broses ymchwil a datblygu ar MumFighter y llynedd fel ymgynghorydd, rhywun â phrofiad byw o Barlys yr Ymennydd. Eleni bûm yn ddigon ffodus i gael fy ngwahodd i ddychwelyd fel Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer yr ymarferion yn barod ar gyfer cyflwyniad cyntaf y sioe. Dyma fy nhro cyntaf mewn rôl fel hon a dwi mor ddiolchgar i Grand Ambition am y cyfle. Tyfodd Mumfighter yn agos iawn at fy nghalon  o'r cychwyn cyntaf ac rwy’n teimlo’n freintiedig i fod yn rhan ohono a gyda thîm mor anhygoel. Mae hi mor bwysig cael darn o theatr fel hon, mae’n stori wir wedi’i hysgrifennu’n hyfryd gan Tracy Harris ac mi fydd yn golygu cymaint i gymaint o bobl”.

Mae’r bartneriaeth arloesol yma wedi arwain nid yn unig at adeiladu’r set yn rhannol gan Ganolfan Arloesedd Cerebra, ond mae'r elusen hefyd wedi cynnig tocynnau am ddim i’r rhieni a’r gofalwyr y mae’n gweithio gyda nhw ar draws y rhanbarth. Mae cynnwys gofalwyr yn y prosiect wedi bod yn allweddol gyda digwyddiadau gofalwyr cymunedol wedi’u cynllunio er mwyn i bobl allu rhannu eu straeon a gweld ymarferion o’r ddrama.

Mae Anabledd Dysgu Cymru a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe wedi bod yn eiriolwyr allweddol ar gyfer y darn, ochr yn ochr â Chanolfan Gofalwyr Abertawe sydd wedi darparu tocynnau am ddim i ofalwyr di-dâl ar draws Abertawe trwy'r cynllun Amser, a ariennir gan Ofalwyr Cymru, cynllun sy’n darparu hoe amhrisiadwy i ofalwyr di-dâl gyda diwrnodau allan am ddim, teithiau a phrofiadau.

Syfrdanodd yr actores Katie Payne gynulleidfaoedd ledled Cymru ac yng Nghaeredin yn My Mixed Up Tape gyda'r cwmni Dirty Protest, drama gomedi un fenyw hunan-ysgrifenedig, ac mae hi hefyd wedi perfformio gyda Frantic Assembly a National Theatre Wales yn y gorffennol.

Dyluniwyd MumFighter gan Elin Steele. Bydd dyluniad goleuo gan Cara Hood. Bydd Ian Barnard a Georgina Nobbs yn cyd-ddylunio sain, Dena Davies yn gyfarwyddwr cynorthwyol, Cara Readle yn gyfarwyddwr cyswllt, Nia Thompson yn reolwr cynhyrchu a Tom Bevan yn cynhyrchu. Mae Steve Balsamo, cyd-gyfarwyddwr Grand Ambition, wedi creu cerddoriaeth ar gyfer Mumfighter ochr yn ochr â chynhyrchydd cerddoriaeth o Gwm Tawe, Dai Griffiths.

Mae’r cynhyrchiad cyntaf hwn o MumFighter wedi’i ddatblygu yn dilyn cyfnod ymchwil a datblygu creadigol a gyd-gyfarwyddwyd gan Richard Mylan a Deborah Light yn Theatr y Grand Abertawe ym mis Tachwedd 2023.

Mae MumFighter wedi derbyn cyllid y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, cyllid SPF Llywodraeth y DU trwy Gyngor Abertawe, yn ogystal â chyllid a chefnogaeth Tŷ Cerdd, Ymddiriedolaeth Gymunedol y Loteri Cod Post, Aligra, Cerebra, Canolfan Gofalwyr Abertawe ac Anabledd Dysgu Cymru.

Gellir gweld MumFighter hyd at ddydd Gwener 25 Hydref 2024 yn Theatr y Grand, Abertawe.