Mae Cydrannu yn ariannu'r gwaith o greu neu gryfhau rhwydweithiau er mwyn datblygu cyfleoedd rhwydweithio ar draws y sector diwylliannol.

Mae'r gronfa yn croesawu gwahanol fathau o syniadau ond rydym yn awyddus iawn i dderbyn ceisiadau gan rwydweithiau sy'n canolbwyntio ar y canlynol ac yn mynd ati i ymgysylltu â nhw:

  • pobl o gefndir a phrofiad personol amrywiol
  • pobl Fyddar, anabl a niwroamrywiol
  • cymunedau ethnig a diwylliannol amrywiol
  • y rhai nad ydynt yn cael yr un cyfleoedd i ymgysylltu â'r celfyddydau oherwydd nifer o rwystrau gan gynnwys cost neu ble maen nhw'n byw ond heb fod yn gyfyngedig i’r ffactorau hyn ychwaith

Mae gan Gydrannu arian ar gael ar gyfer prosiectau untro ar raddfa fach. Gallwn gynnig hyd at £2,500 ar gyfer pob prosiect.

Dyma rai esiamplau o fentrau diweddar a ariannwyd gan Gydrannu:

Sheba Soul Ensemble C.I.C. - Black Rising

Rhwydwaith sy'n canolbwyntio ar theatr a ffilm Affricanaidd, gan amlygu cyfarwyddwyr ffilm benywaidd Du ac archwilio diwylliant Du a phryderon amgylcheddol.

Shane Nickels - Beth nesaf i Queer Spaces a Diwylliant yng Nghymru?

Digwyddiad sy'n seiliedig ar dechnoleg mannau agored lle mae’r agenda’n cael ei gyrru gan y cyfranogwyr eu hunain, gan arwain at ddatblygu rhwydweithiau i gryfhau’r gymuned LGBTQ+ a’u galluogi i fynegi eu creadigrwydd mewn sîn gelfyddydol Cwiar mwy cynhwysol ac amrywiol.

Lisa Evans - Creu cysylltiadau newydd

Rhwydwaith yng Ngorllewin Cymru ar gyfer artistiaid sy'n nodi eu bod yn ferched, ac sy'n aml yn profi unigedd oherwydd natur wledig eu hardal.

Kiera Moran – ArtLink/CyswlltCelf

Rhwydwaith artistiaid ym Merthyr Tudful a’r cyffiniau, gyda ffocws penodol ar gefnogi artistiaid di-waith neu incwm isel.

Arts Care Gofal Celf – Gwella

Rhwydwaith ar gyfer yr artistiaid ar gofrestr Gofal Celf sy'n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal.

Urdd Gobaith Cymru - Fforwm Hygyrchedd a Mynediad yr Urdd

Creu rhwydwaith/fforwm o bobl 18 – 25 oed  anabl, Byddar a niwrowahanol, i gynghori ac arwain ar waith hygyrchedd Eisteddfod yr Urdd.

Chapter, Caerdydd  - Rhwydweithiau Hear We Are

Cryfhau rhwydwaith Hear We Are o artistiaid a phobl greadigol Byddar i gefnogi a chynnal ymarfer trwy gyfarfodydd rheolaidd gyda sefydliadau partner fel Tŷ Pawb, Taliesin a sefydliadau trydydd sector.

Gallwch ddarllen mwy am y gronfa ac ymgeisio drwy glicio yma.