Mae cronfa Beyond Borders Sefydliad PRS yn ysgogi ac yn cryfhau cydweithrediadau trawsffiniol rhwng rhai sy’n creu cerddoriaeth, perfformwyr a chyflwynwyr. Mae'n cefnogi creu, teithio a hyrwyddo cerddoriaeth newydd arloesol ac o ansawdd uchel ar draws pob genre ac yn annog ymgysylltu â chynulleidfaoedd ledled Lloegr, yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon drwy sawl perfformiad a gweithgareddau digidol.
Mae cyllid o hyd at £20,000 ar gael ar gyfer prosiectau sy'n cynnwys comisiynau newydd, recordiadau a pherfformiadau niferus o gerddoriaeth a ysgrifennwyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Rhoddir cymorth i hyd at 8-10 o brosiectau y flwyddyn sy'n cynrychioli:
- Arloesedd ac ansawdd o fewn y gerddoriaeth, rhaglennu a pherfformiadau, a photensial ar gyfer proffil cenedlaethol/rhyngwladol
- Cryfder a dyfnder o ran cydweithio rhwng sefydliadau/ensembles/bandiau trawsffiniol a'r potensial ar gyfer gwaddol partneriaethol
- Cyrhaeddiad cynulleidfaol ac effaith posibl a chryfder y cynlluniau o ran ymgysylltu â'r cyhoedd.
Cefnogir prosiectau Beyond Borders gan Sefydliad PRS mewn partneriaeth â Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Iwerddon / An Chomhairle Ealaíon.
Am ragor o fanylion a dyddiad cau ewch i:
https://prsfoundation.com/funding-support/funding-for-organisations/beyond-borders/
Cysylltwch â Suzanne Griffiths-Rees yn Cyngor Celfyddydau Cymru os ydych eisiau rhagor o wybodaeth.