Tridiau o drafodaethau a syniadau i’ch bywiogi yng ngŵyl
Lleisiau Eraill Aberteifi 

26-28 Hydref 2023

Mwldan 2 (Y Prif Awditoriwm), Mwldan, Aberteifi

  • Prif Weinidog Cymru i agor yr ŵyl ac ymuno yn y drafodaeth
  • Rhestr nodedig o artistiaid, llunwyr polisi, awduron ac addysgwyr yn ystyried heriau cyfredol a phosibiliadau newydd

 

Mae Lleisiau Eraill Aberteifi yn cyflwyno Clebran – Llanw a Thrai, cyfres o drafodaethau a pherfformiadau yn y Mwldan 26-28 Hydref 2023.

Daw’r drydedd raglen gyffrous o Clebran ag amrywiaeth o leisiau nodedig ynghyd o ystod o wahanol ddisgyblaethau i ystyried llanw a thrai y gorffennol, y presennol a’r dyfodol er mwyn gofyn sut y gall ein cymunedau fynd i’r afael â heriau heb eu tebyg, o’r lleol i’r byd-eang.

Wedi’i guradu mewn partneriaeth â’r digwyddiad a’r podlediad Gwyddelig Ireland’s Edge, mae Clebran yn tyfu o’r cyfeillgarwch rhwng dwy dref arfordirol fechan Dingle - tref enedigol Other Voices - ac Aberteifi, lleoedd sy’n rhannu gwerthfawrogiad dwfn o ddiwylliant a chymuned, ac yn dangos sut mae pethau’n edrych yn wahanol o’r ymyl.

Ddydd Iau 26 Hydref, bydd y gwestai arbennig, Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford, yn dychwelyd i Clebran i agor yr ŵyl cyn y sesiynau cyntaf, gyda cherddoriaeth gan y delynores Cerys Hafana i ddilyn.

Bydd yr awdur a’r darlledwr Jon Gower yn dechrau’r digwyddiad drwy sôn am y berthynas rhwng Iwerddon a Chymru, gan adleisio ei lyfr diweddaraf The Turning Tide, a oedd yn cynnig ‘bywgraffiad o Fôr Iwerddon’. Yna bydd Cerys Hafana y delynores deires glodwiw, yr hanesydd iaith Dr John Gallagher, a’r cyn-athro Cymraeg Wayne Howard yn ymuno â Jon i drafod eu ‘Teithiau Iaith’, gan rannu straeon am ddysgu a siarad Gwyddeleg a Chymraeg, a sut mae’r ieithoedd hyn wedi cyfoethogi eu bywydau. Bydd diwrnod agoriadol y rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad arbennig iawn gan ‘feistres y delyn deires Gymreig’, Cerys Hafana.

Y Prif Weinidog Mark Drakeford a Deirdre de Bhailís, arbenigwraig mewn datblygu gwledig cynaliadwy a Rheolwr Cyffredinol y Dingle Hub, yng Ngorllewin Kerry, Iwerddon sy’n ymuno â Christopher Kissane ar gyfer ‘Lleoedd Bach, Syniadau Mawr’, gan archwilio sut y gall lleoedd sy’n ymddangos yn anghysbell ddod yn enghreifftiau pwerus o newid blaengar.
 

Ddydd Gwener 27 Hydref, y podlediwr a’r awdur Damian Kerlin sy’n arwain ‘Creu Gofod: Lleisiau Cwiar yn y Sector Creadigol’, gan siarad â’r awdur-gyfarwyddwr Tracy Spottiswode a’r dramodydd a’r sgriptiwr gwobrwyedig Daf James, y mae ei ddrama ‘Lost Boys and Fairies’ yn dod i BBC1 cyn hir, am adrodd straeon cwiar gafaelgar, effaith a dylanwad pellgyrhaeddol y gymuned LGBTQIA+ ar y diwydiannau creadigol, pwysigrwydd y celfyddydau a mannau celfyddydol i gymdeithas a'r angen i’w cefnogi’n barhaus ac yn ychwanegol.
 

Ddydd Sadwrn 28 Hydref bydd ‘Don’t Stop (Thinking About Tomorrow)’ yn archwilio peryglon meddwl tymor byr, a’r hyn a ellir ei wneud i ddiogelu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol. Yn ymuno â Christopher Kissane fydd Richard Fisher o BBC Future - awdur The Long View: Why We Need to Transform How The World Sees Time – a’r seicolegydd Dr Sharon Lambert, o Goleg Prifysgol Cork, a gymerodd ran yng Nghynulliad y Dinasyddion ar Ddefnyddio Cyffuriau’ Iwerddon.

Daw Clebran i ben eleni ar brynhawn Sadwrn gyda ‘Y Straeon a Adroddwn’, panel o lenorion clodfawr o Gymru ac Iwerddon yn trafod ein traddodiadau storïa a’r straeon rydyn ni’n dewis eu hadrodd. Yn ymuno â Sophie Mackintosh awdur The Water Cure and Cursed Bread a enwebwyd am wobr Booker, fydd y dramodydd CN Smith a Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa mewn trafodaeth a arweinir gan Christopher Kissane.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rydym wrth ein bodd o fod yn cynnal gŵyl Lleisiau Eraill yng Ngorllewin Cymru eto eleni. Mae’n ddathliad o gysylltiadau hynafol a dealltwriaeth ddiwylliannol ddofn rhwng Cymru ac Iwerddon, wrth i ni geisio cryfhau ymhellach ein perthynas drwy Gyd-Ddatganiad Iwerddon-Cymru.

“Mae ein dwy wlad wedi cynhyrchu rhai o berfformwyr mwyaf talentog y byd ac os oedd cyfranogwyr y llynedd yn ffon fesur o unrhyw fath, yna fydd ‘na wledd o’n blaenau i’n cyffroi a’n hysbrydoli unwaith eto eleni.”

Caiff amserlen lawn Clebran ei chyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

Bydd band arddwrn Lleisiau Eraill Aberteifi yn rhoi mynediad anghyfyngedig i chi i HOLL drafodaethau Clebran. Mae bandiau arddwrn Pris Cynnar Lleisiau Eraill Aberteifi ar werth nawr am £25. Mae mynediad i holl ddigwyddiadau Lleisiau Eraill Aberteifi ar sail y cyntaf i'r felin, felly cyrhaeddwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

Ewch i: www.othervoices.ie/events/other-voices-cardigan-2023 am docynnau a gwybodaeth bellach.

Cynhyrchir Lleisiau Eraill Aberteifi gan South Wind Blows mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl ac mae’n bosib o ganlyniad i gefnogaeth a buddsoddiad gan Llywodraeth Cymru ac Adran Treftadaeth, Diwylliant, Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau.

// DIWEDD //

 

Cysylltwch â Helena Turgel ar helena@mwldan.co.uk +44 (0)1239 622 403 am fanylion pellach.

 

DEUNYDDIAU CLEBRAN - Lluniau a bywgraffiadau siaradwyr

 

Mwldan

Mae’r Mwldan yn Ganolfan Celfyddydau a sinema annibynnol a leolir yn Aberteifi. Mae'r ganolfan yn cyflwyno rhaglen fyw aml-gelfyddyd ac yn dangos tua 3000 o ffilmiau a darllediadau byw yn flynyddol. Mae’r Mwldan yn lleoliad cynhyrchu o bwys, sy’n gyfrifol am gydweithrediadau rhyngwladol fel Catrin Finch a Seckou Keita, ac mae hefyd yn cynhyrchu Digwyddiadau Haf Castell Aberteifi mewn partneriaeth â Chastell Aberteifi. Yn 2017, cychwynnodd y Mwldan y label recordio bendigedig mewn partneriaeth â chynyrchiadau cerddorol ARC, gan weithredu model 360 gradd o reoli artistiaid, cynrychioli, cynhyrchu, rhyddhau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Mae gan y sefydliad, sy’n elusen a menter gymdeithasol gofrestredig nid-er-elw, drosiant blynyddol o £1.7 miliwn (cyn Covid) ac mae'n cyflogi tîm o 19 aelod staff.

 

www.mwldan.co.uk

@TheatrMwldan

 

Triongl

Cwmni cynhyrchu teledu a ffilm yw Triongl a sefydlwyd yn 2017 gan Nora Ostler ac Alec Spiteri gyda Gethin Scourfield yn ymuno yn 2018. Mae’r tri yn gynhyrchwyr profiadol gyda hanes o gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel, gwobrwyedig. Byddant yn dogfennu ‘Other Voices/Lleisiau Eraill’ ar gyfer rhaglen arbennig awr o hyd i’w darlledu nes ymlaen ar S4C ac RTÉ.

www.triongl.cymru

@triongl_tv

 

Ireland’s Edge:

Dechreuodd Ireland’s Edge yn 2015, gan ddatblygu o uchelgais i archwilio i ddyfodol Iwerddon mewn tirwedd fyd-eang newidiol o safle unigryw yn Dingle, ym mhen pellaf gorllewin Iwerddon. Mae Ireland’s Edge yn hyrwyddo’r syniad y gall cydweithio, trafod a benthyg adeiladu ar ein gwybodaeth gyfunol, gan osod diwylliant, creadigrwydd a chymuned wrth galon yr hyn a wnawn.

 

Gwrandewch: Ireland’s Edge - The Podcast

Gwyliwch: YouTube

www.irelandsedge.net

Twitter: @irelandsedge