National Theatre Wales yn cyhoeddi ei thaith o Circle of Fifths, cynhyrchiad ymdrochol sy'n cyfuno ffilm, cerddoriaeth a theatr, wedi'i gyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilm a theatr Gavin Porter.

“Life in all its diversity; death in all its universality.” Institute of Welsh Affairs

★ ★ ★ ★ ★ “You feel you are part of something real and stark and spiritual.” Buzz Magazine

Wedi'i chreu gyda chydweithfa o gerddorion ac artistiaid o gymuned amlddiwylliannol hynaf Cymru, Butetown, ac yn cynnwys straeon go iawn gan bobl ledled Cymru, mae Circle of Fifths yn archwilio sut y gall cerddoriaeth a straeon ein cysylltu mewn cyfnod o alar a cholled - gan ganiatáu gofod i fyfyrio a dathlu ar y cyd.

Wedi’i chyflwyno gyntaf yn 2022 yng Nghaerdydd, mae Circle of Fifths yn dychwelyd yn hydref 2023 gan deithio’r sioe i leoliadau ledled Cymru ac i Lundain.

Dydd Iau 19 – Dydd Sadwrn 21 Hydref, 7pm – Glan yr Afon, Casnewydd

Dydd Iau 26 Hydref, 7pm – Institiwt Glyn Ebwy

Dydd Sadwrn 28 Hydref, 7pm – Capel Parc Du, Y Waun

Dydd Gwener 3 Tachwedd, 7pm – Theatr Byd Bach, Aberteifi

Dydd Mercher 8 Tachwedd, 7pm – Drill Hall, Cas-gwent 

Dydd Gwener 10 Tachwedd, 7pm – Neuadd Trehopcyn, Pontypridd 

Dydd Sadwrn 11 Tachwedd, 7pm – Canolfan Gymunedol Butetown, Caerdydd

Dydd Mercher 17 – Dydd Sadwrn 20 Ionawr, Brixton House, Llundain (tocynnau ar werth cyn hir)

Hygyrchedd
Bydd y perfformiad ar 19 Hydref yn cynnwys dehongli BSL. Ewch i dudalen y digwyddiad am fanylion llawn:

Tocynnau: Talu'r hyn rydych yn ei ddymuno, o £7-£17